Os ydych chi’n ystyried rhentu ystafell yn eich cartref, mae nifer o bethau pwysig i’w hystyried.

Oes angen Caniatâd arnaf i gymryd Lletywr?

Os ydych chi’n rhentu – gofynnwch i’ch landlord a chael cadarnhad ysgrifenedig o’i ganiatâd yn gyntaf.

Os oes gennych forgais – gofynnwch i’ch benthyciwr a chael cadarnhad ysgrifenedig o’i ganiatâd yn gyntaf.

Yswiriant – Dylech ofyn i’ch darparwr yswiriant cartref a chynnwys a chael ateb ysgrifenedig.

Pethau i’w hystyried cyn cymryd Lletywr.

A oes gennych blant? Beth rydych chi’n ei wybod am gefndir rhywun a fydd yn rhannu eich cartref?

Byddwch yn gyfrifol am ymddygiad eich lletywr; er enghraifft, os yw’n achosi aflonyddwch i unrhyw berson arall yn yr eiddo neu’n agos ato.

Beth dylwn i ei wneud yn ôl y gyfraith?

Dodrefn Rhaid i’r holl ddodrefn a ddarperir i’r lletywr  gydymffurfio â Rheoliadau Dodrefn a Deunyddiau (Diogelwch) (Tân) 1988.

Eitemau trydanol Dylai’r rhain fod yn newydd neu wedi’u profi gan drydanwr cymwys.

Mae’n rhaid trefnu archwiliad diogelwch nwy blynyddol ar gyfer eich cartref.

Sut bydd Lletywr yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Bydd hyn yn dibynnu ar a yw’n byw gyda chi fel rhan o’ch cartref, neu os yw’n rhentu ystafell wely yn eich cartref yn unig ac yn rhannu lleoedd eraill â chi. Mae’r ffordd y bydd hyn yn effeithio ar eich hawliadau yn wahanol ar gyfer pob budd-dal.

Beth am fy Nhreth Gyngor?

Mae pwy sy’n byw yn yr eiddo’n effeithio ar lawer o ostyngiadau’r dreth gyngor; mae lletywr yn debygol o newid eich bil treth gyngor.

Oes angen i mi dalu Treth ar yr incwm rhent?

Mae’r cynllun rhentu ystafell yn caniatáu i chi ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth.

Ewch i www.gov.co.uk/rent-a-room-in-your-home am fwy o wybodaeth.