Ein partneriaid

The Hub logo | Logo yr Hyb

Sefydliadau eraill a all fod o gymorth i chi

Mae llawer o wasanaethau lleol sy’n gallu rhoi help a chyngor os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled.
Defnyddiwch y rhestr isod i ddod o hyd i wasanaethau sy’n gweithio i chi.

Citizen advice logo

Cyngor ar Bopeth

Gall gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro eich helpu gyda materion dyled cymhleth, ôl-ddyledion morgais, apeliadau budd-daliadau a pheth cyngor ar fewnfudo ymysg pethau eraill. Maent yn cynnig cyngor annibynnol am ddim.

Canolfan Gyfraith SpeakEasy

Cyngor cyfreithiol di-dâl a diduedd, sy’n mynd i’r afael â materion lles cymdeithasol gan gynnwys budd-daliadau lles, dyled, tai a chyfraith cyflogaeth.

Cardiff and Vale credit union logo

Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro

Mae Undeb Credyd Caerdydd a’r fro yn cynnig cyfrifon cynilo a benthyciadau fforddiadwy o hyd at £15,000 i bobl leol. Does dim angen cynilo cyn gwneud cais am fenthyciad.

E-bost: ccu@cardiffcu.com

Ffôn: 029 20 872373 (llinellau ychwanegol ar gael hefyd yn ystod y cyfnod clo – gweler y wefan am fwy o fanylion)

Cardiff Council logo

Canolfan Dewisiadau Tai

Mae Canolfan Dewisiadau Tai Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu’r rheini sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae hyn yn cynnwys cyngor os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan o eiddo rhent neu gartref y mae gennych forgais arno. Gallant eich helpu i chwilio am lety arall ac mewn rhai achosion (yn amodol ar feini prawf) helpu gyda blaendaliadau a rhent ymlaen llaw. Gallant hefyd roi cyngor i chi os ydych yn cael problemau gyda’ch landlord.

I mewn I waith

Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith

Mae Gwasanaethau i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a chymorth digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwch-sgilio. Maent yn cynnig cymorth un i un i geiswyr gwaith a gwasanaeth mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn lleol a chyfleoedd i wirfoddoli.

Independent Living Services logo

Gwasanaethau Byw’n Annibynnol

Mae Gwasanaethau Byw’n Annibynnol Cyngor Caerdydd yn canolbwyntio ar yr henoed a phobl anabl a gallant eich helpu i gael gafael ar amrywiaeth o gymorth. Maent yn darparu cyngor ar arian a budd-daliadau a gallant eich helpu i gael gafael ar ystod eang o gymorth ac addasiadau sy’n eich galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl ac aros yn eich cartref eich hun. Gall Gwasanaethau Byw’n Annibynnol hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol a llawer mwy.

Step Change debt charity logo

Elusen Ddyled ‘Step Change’

StepChange yw prif elusen dyledion y DG sydd â dros 25 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor arbenigol am ddim ar-lein a thros y ffôn ar ddyledion. Creu cyllideb a chael cynllun gweithredu personol gyda chamau nesaf ymarferol a chymorth parhaus wrth i chi ddelio â’ch problemau dyled.

Cardiff Family Support logo

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gallant helpu gyda bywyd teuluol, ymddygiad, gofal plant, a chefnogaeth i rieni ymhlith pethau eraill a’ch cyfeirio at bartneriaid eraill lle bo angen.

Photo of some passports

Cyngor ar Fewnfudo

Dim ond cynghorwyr cymwys a all roi cyngor ar fewnfudo.  Gweler ein rhestr o sefydliadau sy’n cynnig cyngor i Geiswyr Lloches, gwladolion yr UE/AEE ac ymholiadau mewnfudo eraill.

Dewis Cymru logo

Dewis

Mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur o sefydliadau yng Nghmru sy’n gallu helpu gydag amrywiaeth eang o ymholiadau. Gallwch chwilio am wybodaeth yn eich ardal leol.