Rhent, Morgais a Threth Gyngor
Os ydych yn rhentu eich cartref
Os ydych yn rhentu eich cartref, mae amrywiaeth o gynlluniau a manteision ar gael i helpu. Bydd ein Tîm Cyngor ar Arian yn gallu eich tywys drwy’r opsiynau gorau i chi.
- Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i’ch helpu gyda’ch costau byw. Mae’n cyfuno chwe budd-dâl yn un taliad ac os ydych yn rhentu eich cartref, gall gynnwys costau tai. Efallai y byddwch chi’n gallu ei gael os ydych chi ar incwm isel neu’n ddi-waith.
- Mae Budd-dal Tai ar gael i helpu gyda chostau rhent os ydych yn byw mewn mathau penodol o lety megis rhai tai dros dro neu dai â chymorth. Fel arfer gallwch wneud cais os ydych yn berson sengl o oedran pensiwn, neu’n gwpl pensiwn y wladwriaeth. Gallwch wneud cais am fudd-dal tai ar-lein.
- Gellir gwneud Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (gydag elfen tai) a bod angen help ychwanegol arnoch. Mae’r taliadau hyn yn gyfyngedig a dim ond i bobl sydd yn wynebu caledi ariannol difrifol a chanddynt resymau da iawn dros orfod aros yn eu cartref presennol.
Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent neu os oes ôl-ddyledion rhent gennych, dylech gadw mewn cysylltiad â’ch landlord.
Os oes gennych forgais
Os ydych yn berchennog tŷ efallai y gallwch gael cymorth tuag at y taliadau llog ar eich morgais neu fenthyciadau rydych wedi’u cymryd ar gyfer gwaith atgyweirio a gwelliannau penodol i’ch cartref.
- Yr enw ar hyn yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (CLlF). Caiff ei dalu fel benthyciad, y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu â llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth eich cartref.
- Gall ein Partneriaid megis Cyngor ar Bopeth eich helpu gydag ôl-ddyledion a thaliadau morgais.
Dylech bob amser gadw mewn cysylltiad â’ch darparwr morgais os ydych yn cael trafferth i dalu eich ad-daliadau gan y gallant eich helpu i gadw eich cartref.
Cymorth Treth Gyngor
Os ydych ar incwm isel, efallai y bydd gennych hawl i gael rhywfaint o gymorth tuag at dalu eich treth gyngor.
- Mae Gostyngiad Treth Gyngor ar gael i bobl ar incwm isel sy’n gorfod talu’r Dreth Gyngor ar gyfer y cartref maen nhw’n byw ynddo. Os byddwch yn gymwys, bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n uniongyrchol i’ch cyfrif a bydd bil newydd yn cael ei anfon atoch.
- Mae yna ostyngiadau a disgowntiau eraill ar gael os credwch y gallech gael trafferth i dalu eich Treth Gyngor.