Gofalwyr a phobl hŷn

The Hub logo | Logo yr Hyb

Cymorth i Bobl Hŷn

Mae llawer o bobl hŷn nad ydyn nhw’n hawlio’r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo. Gallwn eich helpu i wneud hyn.

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd gan y Llywodraeth y gall y rhan fwyaf o bobl hawlio pan fyddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r oedran y gallwch hawlio eich pensiwn y wladwriaeth gan y Llywodraeth yn newid. Gwiriwch pryd y gallwch wneud hawliad a chael rhagor o wybodaeth.

Credyd Pensiwn – Mae hwn yn arian ychwanegol y gallwch ei hawlio os yw pensiwn y wladwriaeth ac incwm arall yn isel.

Lwfans Gweini – Os oes gennych anabledd neu salwch hirdymor, dyma’r arian ychwanegol sydd ar gael i’ch helpu gyda’ch costau byw.

Gwasanaeth Byw’n Annibynnol – Gall y Gwasanaeth Byw’n Annibynnol eich helpu i aros yn ddiogel ac i barhau i fyw yn eich cartref eich hun.

Help i Ofalwyr

Gallwn eich helpu i gael help a chefnogaeth os ydych chi’n gyfrifol am ofalu am rywun sydd ag anabledd, yn heneiddio neu wedi mynd yn sâl. Gall hyn amrywio o gymorth ymarferol i wneud bywyd bob dydd yn haws, i fudd-daliadau megis Lwfans Gofalwr.

Lwfans Gofalwr – Gallwch hawlio lwfans gofalwr os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos, ac maent yn cael rhai budd-daliadau.

Byddwch yn ofalus gan y gall lwfans gofalwr effeithio ar fudd-dâl y person rydych yn gofalu amdano a chi eich hun.  Os oes angen help arnoch i benderfynu, gallwn wneud cyfrifiadau budd-daliadau i chi neu gallwch ymweld â Gov.UK i gael rhagor o wybodaeth am lwfans gofalwr.

Asesu Gofalwyr – Os ydych yn gofalu am rywun, gallwch gael asesiad i weld beth allai helpu i wneud eich bywyd yn haws.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071