Cyngor a chymorth

The Hub logo | Logo yr Hyb

Gallwn roi cyngor a chymorth i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch incwm, rheoli eich dyledion a’ch treuliau a’ch helpu i ymgeisio am fudd-daliadau, grantiau a gostyngiadau. Gallwn hefyd helpu i’ch cefnogi os ydych wedi cael penderfyniad am fudd-daliadau nad ydych yn cytuno ag ef.

Os oes angen help arnoch gyda materion eraill, fel tai, swyddi, mewnfudo, pryderon am blant neu bobl oedrannus yn eich cartref, byddwn yn dweud wrthych pa dimau a sefydliadau eraill all eich helpu a’ch cyfeirio lle bo angen.