An elderly woman with her adult daughter

Hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun neu fod gennych gynilion neu bensiwn preifat, gallech fod yn gymwys i gael incwm ychwanegol. Yn ogystal â rhoi arian ychwanegol i chi, gall hefyd roi mynediad i chi i gynlluniau eraill fel cymorth gyda chostau tai, biliau treth gyngor, biliau gwresogi a thrwydded deledu. Weithiau gall hawliadau gal eu hôl-ddyddio 3 mis.

I weld a ydych yn gymwys, defnyddiwch y gyfrifiannell hon Cyfrifiannell Credyd Pensiwn – GOV.UK (www.gov.uk)

Os ydych chi angen help i wneud cais neu sicrhau’r incwm mwyaf posibl a gwneud cais am fudd-daliadau a gostyngiadau eraill, cysylltwch â’r Llinell Gynghori ar 029 2087 1071, neu dewch i weld un o’n cynghorwyr ariannol cyfeillgar yn ein sesiynau.