Tai

The Hub logo | Logo yr Hyb

Rydym yn gwybod bod poeni am fforddio lle rydych chi’n byw, problemau gyda’ch landlord, neu geisio dod o hyd i rywle newydd i fyw yn gallu bod yn anodd iawn.

Gallwn eich helpu gyda rhai o’r pryderon ariannol a’ch cyfeirio at dimau eraill neu sefydliadau dibynadwy i’ch helpu pan na allwn ni.

Fforddio eich cartref

Gweler incwm a budd-daliadau i weld yr help sydd ar gael.

Os credwch eich bod mewn perygl o golli eich cartref neu os ydych yn ddigartref

Mae cymorth ar gael i bob tenant sy’n cael trafferth talu ei rent, p’un a yw’n cael budd-daliadau ai peidio, gan gynnwys tenantiaid Cymdeithasau Tai, tenantiaid y Cyngor a’r rheini sy’n rhentu gan landlord preifat.

Cynghorir tenantiaid sy’n profi caledi ac anawsterau yn ystod y pandemig i gysylltu â’r Cyngor ar frys i gael gwybod am y ffyrdd amrywiol y gall yr awdurdod eu helpu a’u cefnogi.

Mae help ar gael drwy ffonio’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu drwy e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Mae’r timau Dewisiadau Tai a Chynghori wedi gweithio gyda’i gilydd i greu pecyn cynhwysfawr i’r rheini sydd wedi cronni ôl-ddyledion rhent neu sy’n ei chael hi’n anodd talu eu hymrwymiadau rhent parhaus.

Bydd aelwydydd ag ôl-ddyledion rhent yn gallu gwneud cais am gymorth ymarferol i leihau eu hôl-ddyledion, yn ogystal â chael cyngor ar wasanaethau’r Cyngor a all helpu i fynd i’r afael â’u pwysau ariannol, fel rheoli arian a chyngor ar ddyledion, gwybodaeth am fudd-daliadau, grantiau a disgowntiau y gallant fod yn gymwys i’w cael, cyfeirio at gymorth gwaith a hyfforddiant a mwy.

Dylai tenantiaid sydd angen help ffonio’r Llinell Gynghori ar 029 2087 1071 neu e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Help i landlordiaid

Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan landlordiaid tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent. Mae gwasanaethau’r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion eiddo rhent preifat i gynnal ymyriadau i gadw tenantiaethau. Gall landlordiaid ffonio 029 2057 0750 neu e-bostio TimSectorRhentPreifat@caerdydd.gov.uk

Tenantiaid Cyngor

Gellir cysylltu â’n Tîm Cyswllt Lles ar 029 2087 1071 a gallwn eich helpu gyda Chyngor Ariannol a gwneud cynllun gyda chi i’ch helpu i fforddio eich rhent ac unrhyw ôl-ddyledion.

Tenaniaid Cymdeithas Dai

Os ydych yn rhentu eich cartref gan Gymdeithas Dai, mae ganddynt wahanol dimau a chynlluniau i’ch helpu i reoli eich tenantiaeth. Gweler ein rhestr o bartneriaid i gael eu manylion cyswllt.

Tenantiaid y Sector Rhentu Preifat

Bellach, mae’n rhaid i landlordiaid ac asiantau preifat gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod tenantiaethau’n deg, a bod eiddo’n ddiogel. Gallwch edrych ar y wefan i weld a yw cyfeiriadau a landlordiaid wedi’u cofrestru, cyn i chi lofnodi tenantiaeth.

Ceir hefyd wybodaeth a chyngor pellach am rhentu gan landlord preifat neu cysylltwch â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 02920 570 750

 

Help os ydych yn cael trafferth gyda’ch morgais

Mae’r Ganolfan Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd talu eu morgais neu unrhyw fenthyciad a sicrhawyd ar eich cartref.  Gallant hefyd helpu pan fydd y morgais neu’r cyfnod benthyca wedi dod i ben.

Bydd y tîm yn cynorthwyo ag achosion llys, gan gysylltu â chwmnïau morgais a chredydwyr, tra’n adolygu eich budd-daliadau, eich incwm a’ch materion dyled. Eu prif nod yw eich cadw yn eich cartref.

Cysylltwch â nhw ar 029 20 570750 neu e-bostiwch  HOCMortgageDebtTeam@caerdydd.gov.uk

Chwilio am gatref newydd?

Rhestr Aros am Dai Cymdeithasol (Rhestr Aros Gyffredin) a Throsglwyddiadau

Os ydych yn dymuno ymuno â’r rhestr aros tai neu’n denant presennol i’r cyngor neu gymdeithas dai ac yn dymuno gwneud cais i drosglwyddo, gallwch gwblhau ffurflen gais tai ar-lein

Tai Ar-lein (caerdydd.gov.uk) neu ffonio’r llinell Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 a dewis opsiwn 1.

Os ffoniwch chi’r llinell gymorth tai bydd cais yn cael ei anfon yn y post ac ar ôl i chi ei ddychwelyd byddwn yn cysylltu â chi i gynnal cyfweliad ffôn.

Os oes gennych ymholiad mewn cysylltiad a’r rhestr aros ffoniwch y llinell Ymholiadau Tai 02920537111 a dewis opsiwn 1 neu e-bostiwch SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk

Cyfnewid

Os ydych chi’n denant cyngor ac yn dymuno cyfnewid, gallwch gwblhau Ffurflen Gais Cyfnewid sydd ar gael o’r hybiau neu ffonio’r llinell cyngor tai ar 029 20537111.

Os ydych chi’n denant Cymdeithas Dai bydd angen i chi siarad â’ch swyddog tai yn y lle cyntaf.

Faint o help y gallaf ei gael i dalu fy rhent?

Ceir prawf modd ar gyfer y Credyd Cynhwysol a’r taliadau Budd-dal Tai, ac yn y rhan fwyaf o achosion maent yn seiliedig ar Lwfans Tai Lleol ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu’n breifat

Mae meini prawf maint y sector cymdeithasol (y dreth ystafell wely) yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan eu cyngor lleol neu gymdeithas dai.

Mae’n syniad da gweld faint o gymorth y gallech ei gael, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch symud, fel eich bod yn gwybod y gallwch fforddio eich cartref newydd.

Gweler yma am ragor o fanylion

Dod o hyd i landlord a fydd yn derbyn Credyd Cynhwysol

Gall y Ganolfan Dewisiadau Tai ddarparu manylion am landlordiaid sector preifat sy’n derbyn taliadau budd-dal. Cysylltwch â nhw ar 02920 570 750 Neu CanolfanOpsiynauTai@caerdydd.gov.uk

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071