Budd-daliadau ac Incwm

The Hub logo | Logo yr Hyb

Helpu i gael yr incwm mwyaf posibl

I’ch helpu i gael yr incwm mwyaf posibl, bydd ein cynghorwyr arian yn trafod eich amgylchiadau â chi ac yn eich helpu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau ac incwm y gallech eu hawlio. Mae rhai budd-daliadau yn effeithio ar ei gilydd, felly mae’n bwysig gwirio sut y gellid effeithio ar eich arian yn gyffredinol os byddwch yn gwneud unrhyw hawliadau.

Ni ellir ôl-ddyddio llawer o fuddion, a dim ond pan wneir eich cais y gellir dechrau arni, felly mae’n bwysig hawlio’n gyflym.

Gall rhai budd-daliadau eich gwneud yn gymwys i gael help arall, fel grantiau a gostyngiadau, felly gallech fod yn llawer gwell eich byd drwy wneud hawliad.

Cael cymorth gan y Tîm Cyngor Ariannol

02920 871 071

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

Dysgwch sut rydym ni wedi helpu ein cwsmeriaid

Fe wnaethom helpu dyn a gysylltodd â ni ynghylch ei ddyled treth gyngor cronedig, sef £3,000.

Sylwodd ein hymgynghorydd nad oedd y cwsmer wedi derbyn gostyngiad person sengl (GPS) ar ei gyfrif ers i’w ferch symud allan 8 mlynedd yn ôl. Cynorthwyodd y cynghorwr ef i wneud yr hawliad ar gyfer GPS a dyfarnwyd £2,400 iddo. Yna, gwnaeth y cwsmer gytundeb am £50 y mis i glirio’r £600 oedd yn weddill.

Nid oedd y cwsmer yn ymwybodol y gallai hawlio’r gostyngiad ac roedd yn ddiolchgar iawn i’r Tîm Cyngor Ariannol am y cymorth.

Silhouette of a person image

Doeddwn i ddim yn gwybod y gallwn gael help ar gyfer fy miliau dŵr. Diolch i’r cynghorwr a helpodd i’w esbonio a gwneud cais i mi..

Silhouette of a person image

Gwnaeth y Cynghorydd Ariannol ei orau glas drosof i ac alla i ddim diolch digon iddo!

Silhouette of a person image

Gwasanaeth gwych. Cefais gyfarfod yn fuan. Ac fe helpodd gwirfoddolwr fi hefyd