Budd-dal Profedigaeth

The Hub logo | Logo yr Hyb

Mae help ar gael os ydych yn cael profedigaeth yn y teulu

Fel arfer, mae colli perthynas yn golygu bod incwm eich cartref yn newid. Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi wneud ceisiadau newydd am fudd-daliadau yr ydych eisoes yn eu cael – siaradwch â’r bobl sy’n talu’r budd-daliadau hynny bob amser i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.

Mae’n bosib hefyd y bydd hawl gennych i gael help arall. Os yw eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil wedi marw, a’ch bod dan oedran pensiwn y wladwriaeth, gallwch wneud cais am Daliadau cymorth profedigaeth.

Os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth, efallai y cewch gynnydd yn eich pensiwn y wladwriaeth.

Os ydych wedi colli plentyn

Mae cynllun newydd ar gyfer rhieni sydd â phlentyn wedi marw neu’n farw anedig ar ôl 24 wythnos wedi cael ei gyflwyno i’r rhai sy’n gweithio. Ewch i Gov.uk i gael gwybodaeth am Dâl a gwyliau Profedigaeth Rhiant.

Photo of a customer and an advice agent
Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071