Help os oes plant gennych neu os ydych yn disgwyl

The Hub logo | Logo yr Hyb

Mae nifer o fanteision ar gael i deuluoedd, a’r rhai sy’n feichiog ar hyn o bryd.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071

Budd-dal plant

Mae Budd-dal plant yn daliad a all helpu tuag at gostau plant. Gallwch hawlio Budd-dal Plant ar gyfer pob plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano (nid oes rhaid i chi fod yn rhiant i’r plentyn), does ots os ydych yn gweithio neu â chynilion.  Mae’r taliadau yn ddi-dreth cyn belled nad yw’r naill riant na’r llall yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn.

Lwfans Gwarcheidwad

Os ydych yn magu plentyn rhywun arall, gallech o bosibl hawlio Lwfans Gwarcheidwad, y gellir ei thalu’n ychwanegol â Budd-dal Plant. Am fanylion gweler yma.

Credyd Cynhwysol

Gall Credyd Cynhwysol gynnwys swm i helpu gyda chostau gofalu am eich plentyn neu blant.

Mae cyfyngiadau ar faint o blant y gellir eu cynnwys yn eich cais.  Efallai y cewch chi arian ychwanegol wedi’i ychwanegu at eich credyd cynhwysol os yw eich plentyn dibynnol yn anabl.

Grant Mamolaeth

Gallech gael taliad untro o £500 i helpu tuag at y gost o gael plentyn a’ch bod yn derbyn rhai budd-daliadau.

Talebion Cychwyn Iach

Cynllun yw Cychwyn iIch i helpu mamau beichiog, rhieni newydd a’u plant i fwyta’n iach. Os ydych yn gymwys, gallwch gael fitaminau am ddim, a thaleb tuag at gostau llaeth, llysiau a ffrwythau. Gwneud cais am dalebau cychwyn iach.

Costau Gofal Plant

Gall gofal plant fod yn ddrud, ond mae help gyda chostau ar gael, hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn budd-daliadau. Mae ’na ofal plant am ddim yng Nghymru hefyd.

Help gyda chostau

  • Trwy Gredyd Cynhwysol
  • Gofal Plant Di-dreth – does dim rhaid i chi fod yn derbyn budd-daliadau
  • Help wrth i chi astudio

Gofal Plant Am Ddim

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth gyda chostau plant ar dudalen Cymorth gyda Chostau Gofal Plant AGPh.

Help gyda chostau ysgol

Prydau Ysgol Am Ddim

Mae Prydau am ddim ar gael i blant 5-16 oed yn ysgolion y wladwriaeth.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae’r cynllun wedi cau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 a bydd yn ailagor ar gyfer 2026/27 ar y 1af o Orffennaf 2026.

Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7.

Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion yn Flaenorol) (cardiff.gov.uk)

Os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni: ​​​029 2087 1071

Free School Clothes.com

Mae Free School Clothes.com yn “siop gyfnewid rithwir” rhad ac am ddim, nid-er-elw, sy’n helpu teuluoedd i rannu ac ailddefnyddio dillad ysgol a hanfodion eraill yn lleol yng nghymuned eich ysgol, am ddim.

  • Helpu teuluoedd i arbed arian.
  • Amddiffyn ein planed trwy leihau gwastraff.
  • Cryfhau ein cymunedau.

Ewch i www.FreeSchoolClothes.com i gynnig dillad ysgol nad ydynt yn ffitio mwyach i deuluoedd eraill a phori a gofyn am bethau sydd eu hangen arnoch chi.

Better Fit Uniform Donation

Mae Better Fit Uniform Donation yn elusen sy’n ailgylchu gwisgoedd ysgol ac eitemau ysgol eraill fel bagiau, cotiau ac esgidiau, gan eu darparu am ddim i deuluoedd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Maent yn cefnogi teuluoedd sy’n wynebu anawsterau ariannol neu dlodi.

Ffoniwch 07762 943983 neu e-bostiwch abetterfit22@gmail.com os hoffech chi gyfrannu neu weld beth sydd ganddyn nhw mewn stoc.

Bwyd a Hwyl

Cynllun rhad ac am ddim yw hwn a gynhelir yn ystod gwyliau’r ysgol ac mae’n cynnwys gofal plant, gweithgareddau a phrydau bwyd i blant yn ystod y gwyliau yn eu hysgol eu hunain.  Cysylltwch â’ch ysgol i weld a yw’n cynnal y rhaglen.

Clybiau brecwast

Mae clybiau brecwast yn cynnig brecwast iach am ddim mewn rhai ysgolion.  Cysylltwch â’ch ysgol eich hun i weld a oes clwb brecwast am ddim ganddynt.