Budd-daliadau sydd ar gael os ydych yn sâl neu’n anabl

The Hub logo | Logo yr Hyb

Mae cymorth ariannol ar gael

Mae sawl budd-daliad y gallwch wneud cais amdano os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd eich bod yn sâl neu fod gennych anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’r rhain yn disodli eich prif incwm.

Os ydych newydd orffen gwaith oherwydd salwch neu anabledd efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Ffurf Newydd. Mae’r lwfans hwn ar gael os ydych yn ei chael yn anodd neu’n amhosibl gweithio, ac fe gaiff ei dalu bob pythefnos i’ch helpu gyda’ch costau byw.

Gall Credyd Cynhwysol fod ar gael hefyd os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd.

Mae arian ychwanegol ar gael i bobl sy’n sâl neu y mae anabledd yn effeithio arnynt hyd yn oed os ydych yn gweithio, neu os oes cynilion gennych.

Gallai Taliadau Annibyniaeth Bersonol (TAB) fod ar gael os oes afiechyd neu anabledd hirdymor gennych. Efallai y byddwch yn cael rhywfaint o arian i helpu tuag at eich bywyd bob dydd, er enghraifft os bydd angen help arnoch i olchi a gwisgo, a help os ydych yn cael trafferth mynd o le i le. Nid yw eich incwm neu’ch cynilion yn effeithio ar hyn.

Gallai Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) ar gyfer plant fod o gymorth gyda’r costau ychwanegol o ofalu am blentyn o dan 16 oed sydd ag anawsterau symudedd, neu sydd angen mwy o ofal na phlentyn nad oes salwch neu anabledd ganddo.

Siaradwch â’r Tîm Cyngor ar Arian am ragor o wybodaeth a help i hawlio unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn.

Beth i’w wneud os yw eich cais am fudd-dal wedi’i wrthod.

Gwiriwch y llythyr yr ydych wedi ei dderbyn ar unwaith. Fel arfer, bydd terfynau amser os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad.

Cymerwch y camau a ysgrifennwyd ar y llythyr neu, os oes angen help arnoch, dewch â’r llythyr i weld un o’n Cynghorwyr Arian a byddant yn gallu eich helpu i sicrhau fod y penderfyniad yn cael ei ystyried eilwaith (gelwir y rhain yn ‘ailystyriaethau gorfodol’ fel arfer).

 

Chwilio Am Gyngor Ar Fudd-Daliadau Anabledd?

Gall ein Tîm Cymorth Budd-dal Anabledd gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth

arbenigol ynghylch y canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl i Blant
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Cynhwysol Gallu Cyfyngedig i Weithio
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Gofalwr

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol gyda llenwi ffurflenni cais, Ailystyriaethau.

Gorfodol ac apeliadau, a phan fo’n berthnasol yn cynrychioli unigolion mewn gwrandawiadau Tribiwnlys.

Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb i wyneb, apwyntiadau ffôn ac ymweliadau â’r cartref.

I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch cymorthbudd-dalanabledd@caerdydd.gov.uk

neu ffoniwch ein Llinell Gyngor 02920 871 071

 

Photo of a customer and an advice agent
Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071