Cap Budd-daliadau

The Hub logo | Logo yr Hyb

Beth yw’r Cap Budd-daliadau?

Mae’r Cap Budd-daliadau’n derfyn ar gyfanswm y budd-daliadau y caiff aelwyd oedran gweithio eu hawlio. Mae gwybodaeth bellach a beth yw’r terfynau ar gael ar caerdydd.gov.uk.

Os yw’ch cais am Fudd-Dal Tai neu Gredyd Cynhwysol wedi’i leihau oherwydd y cap, gallwn eich helpu. Byddwn yn gwirio a yw’r cap wedi’i roi ar waith yn gywir, neu a ddylech gael eich eithrio.

Os bydd y cap yn berthnasol, byddwn yn eich helpu i reoli eich arian a gweld a ydych yn gymwys i gael cymorth ychwanegol, sef Taliadau tai yn ôl disgresiwn.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071