Bwyd

Os ydych yn cael trafferth i ddarparu bwyd i chi a’ch teulu, gallwn helpu.
Banc bwyd a pharseli bwyd
Os nad oes gennych fwyd o gwbl, os gwelwch yn dda cysylltwch â ni neu ewch draw i Hyb i gael Taleb Banc Bwyd. Byddwn yn holi am eich amgylchiadau ac yn gwirio eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae hawl gennych iddynt, ac yn eich helpu gydag unrhyw ddyledion a threuliau.
Gallwch hefyd gael gafael ar Dalebau Banc Bwyd drwy sefydliadau eraill a chasglu drwy gyfrwng eu lleoliadau.
Sefydliadau a all helpu gyda bwyd cost isel neu am ddim
Pantrïoedd bwyd –
Yn cynnig mynediad at fwyd am danysgrifiad bach wythnosol (tua £5 fel arfer) sy’n gallu cynnwys ffrwythau a llysiau ffres a bwydydd ar gyfer y cwpwrdd bwyd. Dim ond trigolion o’u hardal mae rhai yn eu derbyn, ond mae rhai yn gwasanaethu Caerdydd gyfan. Am fanylion cynlluniau yn eich ardal chi, ewch i’r wefan: www.yourlocalpantry.co.uk
Oergelloedd Cymunedol
Mae’r oergell yn cynnig mynediad am ddim at fwyd i unrhyw un 7 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio system dalu fel y gallwch i helpu gyda chostau rhedeg. Drwy ddefnyddio bwyd sydd dros ben i’w ailddosbarthu i’r rhai sydd angen bwyd, gall unrhyw un a phawb ddefnyddio’r oergell. Ei nod yw mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd a gwastraff bwyd ar yr un pryd. Gall yr oergell gynnwys llysiau, brechdanau, bwydydd wedi eu coginio, cig a physgod wedi’u coginio gyda dyddiad defnyddio erbyn, cynnyrch llaeth, llaeth a diodydd eraill.
Oergell Gymunedol Caerdydd, Canolfan Gymunedol Cathays, 36-38 Teras Cathays
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener – 9:30am i 11pm Sadwrn i Sul: 10am i 6pm
Cydweithfeydd Bwyd
Grŵp Bwyd Cymunedol Splo-Down –
Grŵp o gymdogion o Sblot, Adamsdown a Thremorfa yw Grŵp Bwyd Cymunedol Splo-Down sydd wedi dod at ei gilydd i gwrdd â’u hanghenion bwyd eu hunain ar y cyd.
Stondin farchnad aelodau wythnosol wedi’i lleoli yn iard Canolfan Oasis – 69B Heol y Sblot Caerdydd CF24 2BW. Pob dydd Mercher 5pm – 7pm.
Am ragor o fanylion, ewch i https://splo-down.org/
Banc Bwyd Anifeiliaid Anwes
Yn darparu bwyd ac eitemau i anifeiliaid anwes ar gyfer: Mae cymorth ar gael drwy:
- Pobl yn profi digartrefedd
- Pobl agored i niwed
- Pobl 50 oed a throsodd
- Dioddefwyr camdriniaeth
- Pobl mewn argyfwng ariannol neu dlodi
- Dioddefwyr trychinebau naturiol
- Pobl yn aros am Gredyd Cynhwysol
Mae cymorth ar gael drwy:
Pet food bank service – Pet Foodbank, Pets, Animal Foodbank
Appiau
Olio
Rhannu bwyd gyda chymdogion a ffrindiau neu gael manylion am y bwyd sy’n cael ei roi am ddim gan siopau lleol.
Too Good to Go
Busnesau bwyd yn hysbysebu bagiau o fwyd sydd ar gael am bris isel. Bydd y cynnwys yn amrywio
Kitche
Traciwch fwyd wrth i chi ei brynu, i’ch helpu i reoli eich siopa a lleihau gwastraff bwyd. Hefyd awgrymiadau rysáit yn seiliedig ar yr hyn sydd gennych yn y cwpwrdd.
No waste
Rhestrau ar gyfer eich cypyrddau a’ch rhewgell i olrhain bwydydd a dyddiadau dod i ben, er mwyn osgoi gwastraff.
Prydau Ysgol Am Ddim
Os ydych ar incwm isel a bod eich plentyn mewn ysgol gynradd neu uwchradd, efallai y byddwch yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gwnewch eich cais drwy wefan y cyngor a byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o fanylion.
Talebion Cychwyn Iach
Cynllun yw Cychwyn Iach i helpu mamau beichiog, rhieni newydd a’u plant i fwyta’n iach. Os ydych yn gymwys, gallwch gael fitaminau am ddim, a thaleb tuag at gostau llaeth, llysiau a ffrwythau. Gwneud cais am dalebau cychwyn iach.
Bwyd a Hwyl (SHEP)
Cynllun rhad ac am ddim yw hwn a gynhelir yn ystod gwyliau’r ysgol ac mae’n cynnwys gofal plant, gweithgareddau a phrydau bwyd i blant yn ystod y gwyliau yn eu hysgol eu hunain. Cysylltwch â’ch ysgol i weld a yw’n cynnal y rhaglen.
Clybiau brecwast
Mae clybiau brecwast yn cynnig brecwast iach am ddim mewn rhai ysgolion. Cysylltwch â’ch ysgol eich hun i weld a oes clwb brecwast am ddim ganddynt.
Awgrymiadau i Arbed Arian ar Filiau Bwyd
- Lluniwch gyllideb a chadw ati
- Gwiriwch eich cypyrddau a’ch oergell cyn i chi siopa ac ysgrifennwch restr
- Newidiwch gynhwysion a bwyd am fathau eraill os ydynt wedi cynyddu mewn pris
- Peidiwch â mynd i siopa pan fo eisiau bwyd arnoch
- Swmp-brynwch os bo modd
- Fel arfer bydd ffrwythau a llysiau sydd yn eu tymor yn rhatach
- Defnyddiwch ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi
- Dewiswch doriadau rhatach o gig – ond cofiwch efallai y bydd angen i chi newid y ffordd rydych chi’n ei goginio. Fel arfer mae angen defnyddio dulliau coginio hirach, arafach ar gyfer toriadau rhatach o gig
- Peidiwch â thaflu coesynnau brocoli neu flodfresych. Gellir eu torri’n stribedi tenau a’u coginio – dim ond tocio unrhyw ddarnau coediog sydd ei angen
- Os ydych chi bob amser yn coginio gormod o reis a phasta, gallwch rewi’r hyn sy’n weddill.
- Gallwch aildyfu letys o goesynnau – rhowch y coesyn mewn cynhwysydd o ddŵr mewn lle heulog
- Defnyddiwch bin rholio i wasgu’r gweddillion olaf allan o diwbiau
- Peidiwch â rhoi’r popty ymlaen ar gyfer un eitem
- Rhowch gaeadau ar sosbenni
- Dylech osgoi berwi mwy o ddŵr yn y badell nag sydd ei angen; peidiwch â’i gorlenwi
- Nodir dyddiadau ‘defnyddiwch erbyn’ am resymau diogelwch a dylid dilyn y rhain bob amser oherwydd y gallai fod yn beryglus bwyta’r bwyd ar ôl y dyddiadau hyn.
- Nod dyddiadau ‘gorau cyn’ yw rhoi gwybod i chi am bryd gallai ansawdd bwyd fod yn llai da ond dal yn ddiogel ei fwyta.