Cyfrifon Banc
Os nad oes cyfrif banc gennych, mae rhesymau cynyddol pam efallai y byddech awydd agor un, fel:
- Rhaid talu llawer o fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, i gyfrif banc
- Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn talu cyflogau i gyfrif banc
- Os byddwch yn talu biliau drwy ddebyd uniongyrchol byddwch yn aml yn cael gostyngiad
- Mae taliadau’n gyflymach na chyfrifon Swyddfa’r Post
Os ydych chi’n credu na chewch chi gyfrif banc am fod hanes credyd gwael gennych, mae llawer o fanciau bellach yn cynnig cyfrifon sylfaenol iawn.
Os ydych yn cael trafferth i gyflenwi’r prawf adnabod (ID) sydd ei angen arnoch i agor cyfrif, os ydych yn hawlio Gostyngiad Treth Gyngor neu Fudd-dal Tai, gallwn ddarparu llythyr i wirio eich ID.
Gallwn hefyd eich helpu i gael copïau o’ch bil Treth Gyngor os oes angen.