Helpu i ddelio â dyled gan ein Tîm Cyngor ar Arian
Gallwn eich helpu i leihau a rheoli ffynonellau dyled amrywiol. Byddwn yn asesu eich sefyllfa ac yn cynnig cyngor ac argymhellion wedi’u teilwra i chi, gan wneud cais am gynlluniau perthnasol ar eich rhan i helpu i leihau eich gwariant.
Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio unrhyw arian ychwanegol sydd gennych i glirio dyledion â blaenoriaeth iddynt, gan y bydd y math hwn o ddyled yn arwain at gymryd camau mwy difrifol pe na byddech yn eu talu.
Beth yw dyledion â blaenoriaeth a dyledion heb flaenoriaeth?
Pan fyddwch ar gyllideb gyfyngedig a biliau’n dal i gyrraedd, gall fod yn anodd penderfynu pwy i dalu gyntaf. Ffordd syml o wneud hyn yw gweld a ydyn nhw’n ddyledion â blaenoriaeth neu’n rhai heb flaenoriaeth.
Beth yw’r gwahaniaeth?
Mae dyled â blaenoriaeth yn un fydd yn cael yr effaith fwyaf difrifol arnoch chi a’ch teulu os na fyddwch yn ei thalu. Mae dyledion a’r taliadau ychwanegol sy’n cael eu gosod pan na fyddwch yn talu yn gallu cynyddu’n gyflym.
Os ydych yn cael trafferth talu unrhyw fil, dylech bob amser gadw mewn cysylltiad â’r cwmni mae arnoch arian iddo gan fod ganddynt fel arfer ffyrdd o helpu – yn enwedig os ydych chi’n siarad â nhw cyn gynted ag y byddwch yn dechrau cael trafferth.
Dyled â blaenoriaeth? | Beth yw’r peth gwaethaf all ddigwydd? |
---|---|
Rhent ac ôl-ddyledion rhent | Eich troi o’ch cartref |
Morgais/benthyciad wedi’i warantu | Eich troi o’ch cartref |
Rhent tir a thaliadau lesddaliad | Colli’r brydles ac ailfeddiannu gan y rhydd-ddeiliad |
Dirwy llys ynadon heb ei thalu | Carchar |
Ôl-ddyledion Treth Gyngor | Atafaelu enillion/asiantau gorfodi |
Ôl-ddyledion nwy/trydan | Datgysylltu |
Treth incwm/Yswiriant Gwladol heb eu talu | Methdaliad |
Ôl-ddyledion hurbwrcasu/benthyciad llyfr log | Adfeddiannu nwyddau |
Gordaliad credydau treth | Asiantau gorfodi yn gallu cymryd rheolaeth dros nwyddau |
Gordaliadau budd-dal (os yn dal i’w derbyn) | Didyniadau o fudd-daliadau parhaus neu ddefnyddio asiantiaid gorfodi |
Trwydded deledu heb ei thalu | Dirwy llys ynadon |
Cynhaliaeth plant heb ei thalu | Carchar |
Hysbysiadau Tâl Cosb (Cyngor) | Asiantau gorfodi yn gallu cymryd rheolaeth dros nwyddau |
Dyledion heb flaenoriaeth | Beth yw’r peth gwaethaf all ddigwydd? |
---|---|
Cardiau Credyd | Gellir effeithio ar statws credyd a gall ei gwneud yn anos cael credyd
Ar ôl colli 3 – 6 o daliadau gall credydwr gyflwyno hysbysiad diffygdalu a all effeithio ar gredyd am hyd at 6 blynedd Ar ôl i gyfrif gael ei ddiffygdalu, bydd credydwyr fel arfer yn trosglwyddo’r ddyled i gasglwyr dyledion lluosog. Gall credydwyr benderfynu gwneud cais i’r llys i ddechrau hawlio arian, sy’n gallu arwain at Ddyfarniad Llys Sirol neu gofrestru DLlS yn eich erbyn. Wedi i DLlS gael ei gofrestru ac yn derbyn statws diffygdalu, gall y credydwr wneud cais yn ôl i’r llys i orfodi’r dyfarniad. Gallai gorfodi fod ar ffurf gorchymyn atafaelu enillion, gorchymyn codi tâl, gwarant rheoli, gorchymyn dyled trydydd parti neu fethdaliad ac ati. Byddai’n dibynnu ar faint o ddyled sy’n ddyledus pa un a ellid gwneud cais am orchymyn codi tâl neu fethdaliad yn eich erbyn
|
Benthyciadau heb eu Gwarantu | |
Benthyciadau Diwrnod Cyflog | |
Cardiau Siopau | |
Catalogau | |
Gorddrafftiau | |
Dyled dŵr | |
Diffyg mewn taliadau morgais | |
Tocynnau parcio preifat | |
Dyledion personol i deulu/ffrindiau | Fel arfer nid oes unrhyw ffyrdd swyddogol y gall teulu a ffrindiau eich gorfodi i ad-dalu benthyciadau anffurfiol |
Taflen Gyllideb
Defnyddiwch y Taflen Gyllidebu hon i weld faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a beth rydych yn ei wario arno.
Sut gallwn ni helpu
Gallwn eich helpu mewn llawer o ffyrdd gwahanol, o’ch helpu i drefnu talu dyled y dreth gyngor, i wneud cais am grantiau, gostyngiadau a chynlluniau eraill i leihau dyledion a chynyddu eich incwm.
Cysylltwch â’r Llinell Gynghori ar 02920 871 071 neu ewch i un o’n Hybiau i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn ni helpu.
Cymorth arall sydd ar gael
Os yw’r Tîm Cynghori ar Arian yn nodi swm sylweddol o ddyled, yna byddant yn eich cyfeirio at un o’n sefydliadau partner, megis Cyngor ar Bopeth. Gallant gynnig apwyntiadau a chymorth arbenigol i’ch helpu i ddelio â dyledion â blaenoriaeth a rhai nad ydynt yn flaenoriaeth, gyda’i gilydd.
Step Change yw prif elusen dyledion y DG sydd â dros 25 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor arbenigol am ddim ar-lein a thros y ffôn ar ddyledion. Creu cyllideb a chael cynllun gweithredu personol gyda chamau nesaf ymarferol a chymorth parhaus wrth i chi ddelio â’ch problemau dyled.
Gwnaeth y Cynghorydd Ariannol ei orau glas drosof ac alla i ddim diolch digon iddo!