Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) yn cysylltu â’r rhan fwyaf o bobl sy’n derbyn budd-dal oed gweithio â phrawf modd. Bydd eich budd-daliadau presennol yn dod i ben, a bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.  Gelwir hyn yn “Fudo a Reolir”.

Ydy hyn yn effeithio arna i?

Os ydych yn cael un o’r budd-daliadau isod efallai y cewch lythyr o’r enw “Hysbysiad Mudo” fydd yn dweud wrthoch chi pryd bydd eich budd-daliadau’n dod i ben, a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cysylltiedig ag Incwm)
  • Credydau Treth

Mae gen i bartner, a oes angen i’r ddau ohonon ni hawlio?

Oes, mae angen i’r ddau ohonoch wneud cais CC, fydd wedyn yn cael eu huno.

Fydda i’n derbyn llai ar Gredyd Cynhwysol?

I lawer o bobl, ni fydd eu budd-daliadau’n lleihau – gelwir hyn yn “amddiffyn wrth bontio”. Efallai y bydd rhai pobl yn cael mwy o arian os ydynt yn hawlio Credyd Cynhwysol.  Gallwch ddefnyddio Teclyn Cyfrifo Budd-daliadau (yma) i weld faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael, neu gallwch gwrdd ag un o’n Cynghorwyr Arian a all eich helpu.

Rwy’n poeni am hawlio Credyd Cynhwysol a gorfod aros am daliad?

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn gysylltiedig ag incwm) byddwch fel arfer yn cael pythefnos ychwanegol o’r budd-daliadau hyn, i helpu gyda’r symud i Gredyd Cynhwysol. Nid oes unrhyw Gredydau Treth Ychwanegol yn daladwy.

Nid wyf wedi cael llythyr eto- a ddylwn i wneud cais CC?

Na! Gallwch golli arian os byddwch yn hawlio’n rhy gynnar. Gall y Tîm Cyngor Arian wirio i chi.

 

Mae angen help arna i i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Mae nifer o opsiynau gwahanol o ran cael i helpu i hawlio:

 

Mae ein Cynghorwyr Arian cyfeillgar yma i’ch helpu, a gallant helpu gyda chyllidebu a rheoli eich arian.  Gallant hefyd wirio eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo.

Ffoniwch ni ar 029 2087 1071 neu galwch heibio i’n gweld ni (yma).