Wedi colli eich swydd neu’n di-waith

Incwm pan fyddwch wedi gorffen gwaith
Pan fyddwch allan o waith, mae’n debygol y bydd hawl gennych i gael rhai budd-daliadau, credydau neu lwfansau.
Os ydych newydd orffen gweithio efallai y byddwch yn gymwys i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar Ffurf Newydd. Os ydych yn gymwys, efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol, sy’n cyfuno 6 o fuddion blaenorol ac sy’n cynnwys cymorth i bobl sy’n chwilio am waith.
Os credwch eich bod wedi cael eich trin yn annheg yn y gwaith, neu eich bod yn cael anawsterau gyda chyflogwr presennol neu flaenorol, siaradwch â Cyngor ar Bopeth. Gallan nhw eich helpu i ddeall eich hawliau yn y gwaith a sut i ddelio â phroblemau yn y gweithle.
Helpu i’ch cael yn ôl i weithio
Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith

Gall ein tîm mewnol Tîm I Mewn i Waith eich helpu i chwilio am waith, diweddaru CVs, a’ch helpu i ddod o hyd i hyfforddiant a chyfleoedd eraill.
Gallwch hefyd weld a gwneud cais am y swyddi cyngor gwag diweddaraf ar-lein.
Sgwrsio gyda chynghorydd
Defnyddiwch ein sgwrs fyw i siarad â chynghorydd I Mewn i Waith.
*Monday to Friday **am – **pm.