Mae cymorth ymarferol ar gael gan y Cyngor i aelwydydd sydd wedi cael trafferth talu eu rhent ac sy’n poeni am golli eu cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent cronnol.

Mae cymorth ar gael i bob tenant sy’n cael trafferth talu ei rent, p’un a yw’n cael budd-daliadau ai peidio, gan gynnwys tenantiaid Cymdeithasau Tai, tenantiaid y Cyngor a’r rheini sy’n rhentu gan landlord preifat.

Cynghorir tenantiaid sy’n profi caledi ac anawsterau yn ystod y pandemig i gysylltu â’r Cyngor ar frys i gael gwybod am y ffyrdd amrywiol y gall yr awdurdod eu helpu a’u cefnogi.

Mae help ar gael drwy ffonio’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu drwy e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Mae’r timau Dewisiadau Tai a Chynghori wedi gweithio gyda’i gilydd i greu pecyn cynhwysfawr i’r rheini sydd wedi cronni ôl-ddyledion rhent neu sy’n ei chael hi’n anodd talu eu hymrwymiadau rhent parhaus.

Bydd aelwydydd ag ôl-ddyledion rhent yn gallu gwneud cais am gymorth ymarferol i leihau eu hôl-ddyledion, yn ogystal â chael cyngor ar wasanaethau’r Cyngor a all helpu i fynd i’r afael â’u pwysau ariannol, fel rheoli arian a chyngor ar ddyledion, gwybodaeth am fudd-daliadau, grantiau a disgowntiau y gallant fod yn gymwys i’w cael, cyfeirio at gymorth gwaith a hyfforddiant a mwy.

Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan landlordiaid tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent. Mae gwasanaethau’r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion eiddo rhent preifat i gynnal ymyriadau i gadw tenantiaethau. Gall landlordiaid ffonio 029 2057 0750 neu e-bostio TimSectorRhentPreifat@caerdydd.gov.uk

Dylai tenantiaid sydd angen help ffonio’r Llinell Gynghori ar 029 2087 1071 neu e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk