Newyddion a chyhoeddiadau

Mae Wythnos Siarad Arian yn rhedeg o 3 Tachwedd i 7 Tachwedd 2025 ac mae’n ymgyrch flynyddol sydd wedi’i chynllunio i annog pobl i gael sgyrsiau agored am arian.
Cyflwynwyd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron i 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.
Bydd y Tîm Cyngor Ariannol mewn Hybiau gwahanol dros y misoedd nesaf, yn cynnal sesiynau wedi eu neilltuo i helpu cwsmeriaid i gwblhau ffurflenni cais am fudd-dal anabledd.
Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Bydd y meini prawf cymhwysedd yn aros yr un fath. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7 ar gael.
Os oes gennych argyfwng sy’n golygu bod angen arian parod arnoch ar frys, efallai y cewch eich temtio i gael benthyciad gan unrhyw un a fydd yn rhoi arian i chi. Gall y person sy’n cynnig arian parod cyflym fod yn siarc benthyg arian.
Hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun neu fod gennych gynilion neu bensiwn preifat, gallech fod yn gymwys i gael incwm ychwanegol











