Gwasanaethau Cymorth a Chynghori ar Fewnfudo

The Hub logo | Logo yr Hyb

Dim ond ymgynghorwyr cymwys a all roi cyngor ar fewnfudo.

Isod mae dolenni i sefydliadau a all eich helpu.

Cymorth i Fudwyr

Ewch i’r wefan cymorth i fudwyr

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

  • Cymorth i ffoaduriaid sydd newydd gael caniatâd
  • Ceisiadau am Gredyd Cynhwysol
  • Tai
  • Ceisiadau Budd-daliadau Plant
  • Ceisiadau am Gymorth Lloches (ffoniwch Cymorth i Fudwyr yn gyntaf)
  • Byddant yn ceisio darparu cyfieithydd ar y pryd

Ewch i wefan neu dudalen Facebook Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Oasis

Ewch i wefan neu dudalen Facebook Oasis

Asylum Justice

Pob nos Lun rhwng 6 ac 8pm
07983 176230 neu 07395 959299

Pob nos Iau rhwng 6 ac 8pm:
07983 176230 neu 07752 275065

Ewch i wefan neu dudalen Facebook Asylum Justice neu anfonwch e-bost

Y Groes Goch

Ewch i wefan y Groes Goch neu anfonwch e-bost

Canolfan y Drindod

Ewch i wefan neu dudalen Facebook Canolfan y Drindod

Cyngor a Chymorth Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Cymorth Digidol

Gwasanaeth am ddim i gefnogi pobl i ddilysu eu hunaniaeth drwy’r app “EU Exit: ID Document check” a chwblhau eu cais ar-lein.

I wneud apwyntiad, cysylltwch â We Are Digital:
03333 445 675
Neu
Anfowch y gair “VISA” i 07537 416 944 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm).

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro – Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynorthwyo dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir i wneud cais am statws preswylydd sefydlog a chyn sefydlog, a hefyd yn cynnig mynediad i wasanaethau cynghori ehangach, gan gynnwys cyngor arbenigol.

  • Ceisiadau statws preswylydd sefydlog
  • Ceisiadau statws preswylydd cyn sefydlog
  • Problemau yn y gwaith, gan gynnwys gwahaniaethu a chamfanteisio

Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth

Yn ystod argyfwng Coronafeirws

Ffoniwch 0300 330 9059 a gadael neges llais i gael galwad yn ôl

Y Project Teithio Ymlaen gyda TGP Cymru

Mae project Teithio Ymlaen TGP Cymru’n cynnig cyngor, eiriolaeth a chymorth am ddim i ddinasyddion yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd ledled Cymru.

Er mwyn cefnogi a chynghori dinasyddion yr UE/AEE i aros yn y DU ar ôl Brexit, mae’n cynnig cyngor un i un am ddim ar geisiadau ar gyfer y cynllun yn ieithoedd y cartref.

Yn ystod argyfwng Coronafeirws

Gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn unrhyw bryd – cewch ateb i ymholiadau mor gyflym â phosib:

Ewch i wefan Teithio Ymlaen neu anfonwch e-bost 

Mind Casnewydd

Mae Mind Casnewyddd yn darparu gwasanaeth am ddim i ddinasyddion yr UE, AEE a’r Swistir ledled Cymru i’w helpu i wneud cais am statws sefydlog neu gyn sefydlog yn y DU.

Yn ystod argyfwng Coronafeirws

Maen nhw’n cynnig cymorth dros y ffôn 07918 619238 Dydd Llun i ddydd Gwener 9:00am – 5.00 pm a dros e-bost.

Newfields Law

Mae Newfields Law yn gwmni cyfreithiol yng nghanol Caerdydd sy’n arbenigo mewn gwasanaethau cynghori ynghylch mewnfudo.

Mae’n darparu gwasanaeth cynghori i ddinasyddion yr UE ac aelodau o’u teuluoedd (o’r UE neu beidio) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n dymuno ymgeisio ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Fel cwmni cyfreithiol sy’n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, mae Newfields Law yn cynghori ynghylch unrhyw fath o geisiadau – boed yn geisiadau syml neu rai mwy cymhleth nad ydynt yn safonol, gan gynnwys herio penderfyniadau gan y Swyddfa Gartref. Hefyd, mae Newfields Law yn gweithio gyda sefydliadau pwysig eraill, yn enwedig y rheini sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed, yn rhoi cyngor a chymorth y tu hwnt i Lefel 1 OISC.

Ewch i Wefan Newfields Law i gysylltu â nhw.

Settled

Mae gwefan Settled yn cynnig cymorth ac arweiniad rhyngweithiol, a gall gyfeirio dinasyddion yr UE at wybodaeth bwrpasol.

Os oes gennych gwestiynau yn ymwneud â’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu os hoffech gael rhywfaint o gymorth gyda’r cais am statws preswylydd (cyn-) sefydlog, cysylltwch â Settled.

Os yw’n well gennych siarad dros y ffôn gallwch roi eich enw, eich manylion cyswllt ac amlinelliad byr o natur eich ymholiad ynghyd â’r iaith a ffefrir i gyfathrebu a byddwn yn ffonio’n ôl o fewn 48 awr. Mae eu gwirfoddolwyr yn gallu siarad â chi mewn amrywiaeth o ieithoedd.

Ewch i wefan Settled i gysylltu â nhw.

Mae Settled yn gweithio gyda Here for Good sy’n gallu rhoi cyngor arbenigol ar fewnfudo drwy eu llinell gyngor –  020 7014 2155. Ar agor ar ddydd Llun (09:30-11:30), dydd Mercher (11:30-13:30) a dydd Gwener (13:30-15:30).

Rights of Women

Llinell gyngor dros y ffôn sy’n darparu cyngor cyfreithiol a chymorth i fenywod sy’n agored i niwed oherwydd trais yn erbyn menywod a merched i’w galluogi i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae’r llinell gyngor hwn yn cael ei staffio gan gyfreithwyr neu fargyfreithwyr benywaidd sydd wedi cymhwyso i roi cyngor hyd at Lefel 3 OISC.

Gallwn eich cynghori ar wneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, gan gynnwys eich helpu i ddeall:

  • Beth yw’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • Pa feini prawf y mae angen i chi eu bodloni
  • Sut mae gwneud cais
  • Y dogfennau y bydd eu hangen arnoch i wneud cais
  • Pa fath o statws rydych chi’n gymwys i’w gael

Ewch i wefan Rights of Women i gysylltu â nhw.

Cymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar

Mae’r sefydliad hwn yn gweithio gyda phobl fyddar, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn fyddar o enedigaeth neu o oedran cynnar sy’n defnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu. Mae tudalen we a gwasanaeth apwyntiadau nawr yn fyw i ddinasyddion byddar yr AEE ac o’r Swistir ac aelodau eu teuluoedd i gael cymorth i ymgeisio ar gyfer y Cynllun.  Mae fideos hefyd yn esbonio’r Cynllun yn Iaith Arwyddion Prydain a Rhyngwladol.

Ewch i wefan Cymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar i gysylltu â nhw.

Cyfreithwyr Mewnfudo

Os ydych chi’n poeni am rywun, peidiwch ag ofni gofyn am help.

Gallwch:

Ymgynghorwyr Mewnfudo a Reoleiddir gan OISC

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sicrhau eich statws mewnfudo yn y DU, holwch ymgynghorydd mewnfudo a reoleiddir gan Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaethau Mewnfudo.  Sicrhewch eich bod yn gwirio a yw’r ymgynghorydd yn codi ffi am eu gwasanaeth.

Edrychwch ar y gofrestr o ymgynghorwyr mewnfudo a reoleiddir gan OISC

 

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071