Ein partneriaid

Sefydliadau eraill a all fod o gymorth i chi
Mae llawer o wasanaethau lleol sy’n gallu rhoi help a chyngor os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled.
Defnyddiwch y rhestr isod i ddod o hyd i wasanaethau sy’n gweithio i chi.

Cyngor ar Bopeth
Gall gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro eich helpu gyda materion dyled cymhleth, ôl-ddyledion morgais, apeliadau budd-daliadau a pheth cyngor ar fewnfudo ymysg pethau eraill. Maent yn cynnig cyngor annibynnol am ddim.

Canolfan Gyfraith SpeakEasy
Cyngor cyfreithiol di-dâl a diduedd, sy’n mynd i’r afael â materion lles cymdeithasol gan gynnwys budd-daliadau lles, dyled, tai a chyfraith cyflogaeth.

Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro
Mae Undeb Credyd Caerdydd a’r fro yn cynnig cyfrifon cynilo a benthyciadau fforddiadwy o hyd at £15,000 i bobl leol. Does dim angen cynilo cyn gwneud cais am fenthyciad.
E-bost: ccu@cardiffcu.com
Ffôn: 029 2111 1720

Canolfan Dewisiadau Tai
Mae Canolfan Dewisiadau Tai Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu’r rheini sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae hyn yn cynnwys cyngor os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan o eiddo rhent neu gartref y mae gennych forgais arno. Gallant eich helpu i chwilio am lety arall ac mewn rhai achosion (yn amodol ar feini prawf) helpu gyda blaendaliadau a rhent ymlaen llaw. Gallant hefyd roi cyngor i chi os ydych yn cael problemau gyda’ch landlord.

Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith
Mae Gwasanaethau i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a chymorth digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwch-sgilio. Maent yn cynnig cymorth un i un i geiswyr gwaith a gwasanaeth mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn lleol a chyfleoedd i wirfoddoli.

Gwasanaethau Byw’n Annibynnol
Mae Gwasanaethau Byw’n Annibynnol Cyngor Caerdydd yn canolbwyntio ar yr henoed a phobl anabl a gallant eich helpu i gael gafael ar amrywiaeth o gymorth. Maent yn darparu cyngor ar arian a budd-daliadau a gallant eich helpu i gael gafael ar ystod eang o gymorth ac addasiadau sy’n eich galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl ac aros yn eich cartref eich hun. Gall Gwasanaethau Byw’n Annibynnol hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol a llawer mwy.

Elusen Ddyled ‘Step Change’
StepChange yw prif elusen dyledion y DG sydd â dros 25 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor arbenigol am ddim ar-lein a thros y ffôn ar ddyledion. Creu cyllideb a chael cynllun gweithredu personol gyda chamau nesaf ymarferol a chymorth parhaus wrth i chi ddelio â’ch problemau dyled.

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
Yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gallant helpu gyda bywyd teuluol, ymddygiad, gofal plant, a chefnogaeth i rieni ymhlith pethau eraill a’ch cyfeirio at bartneriaid eraill lle bo angen.

Cyngor ar Fewnfudo
Dim ond cynghorwyr cymwys a all roi cyngor ar fewnfudo. Gweler ein rhestr o sefydliadau sy’n cynnig cyngor i Geiswyr Lloches, gwladolion yr UE/AEE ac ymholiadau mewnfudo eraill.

Dewis
Mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur o sefydliadau yng Nghmru sy’n gallu helpu gydag amrywiaeth eang o ymholiadau. Gallwch chwilio am wybodaeth yn eich ardal leol.

Age Cymru
Elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n anelu at wella bywydau pobl hŷn drwy ddarparu cyngor, cymorth a gwasanaethau dibynadwy.

Gofal a Thrwsio Cymru
Elusen yng Nghymru sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol trwy drwsio, addasu a chynnal a chadw cartrefi.

Race Equality First
Mae Race Equality First yn darparu cefnogaeth, cyngor, arweinyddiaeth a llais dylanwadol i bobl sy’n wynebu gwahaniaethu, aflonyddu, troseddau casineb ac anfantais.

BAWSO
Mae BAWSO yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chymorth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr o gefndir Du a Lleiafrifoedd Ethnig a dioddefwyr sy’n ymfudwyr.

Ymddiriedolaeth Hosbis y Ddinas
Hosbis leol Caerdydd, sy’n gofalu am bobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd yn eu cartrefi eu hunain.

Canolfan Ganser Felindre
Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol.

Sipsiwn a Theithwyr Cymru
Nod Sipsiwn a Theithwyr Cymru yw cefnogi a galluogi Sipsiwn a Theithwyr i gyflawni safon bywyd o ansawdd uchel a theg. Maent yn darparu cefnogaeth, cyngor ac eiriolaeth.





