Rydyn ni’n parhau i gefnogi trigolion mae’r llifogydd yng Ngwaelod-y-Garth wythnos diwethaf wedi effeithio arnyn nhw.
Os nad ydych chi’n siŵr ble i droi am help, neu os yw unrhyw un wedi dod atoch chi yn cynnig gwasanaethau neu gymorth ac rydych chi eisiau sicrwydd cyn gwneud penderfyniad, siaradwch â ni.
Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â phartneriaid dibynadwy gan gynnwys Cyngor ar Bopeth ac Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru i helpu trigolion i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.
Bydd ein tîm Gwasanaethau Cynghori yn Neuadd y Pentref bob dydd yr wythnos hon rhwng 9am a 5pm.





