Bydd y signal sy’n rheoli mesuryddion trydan GTR yn cael ei ddiffodd ar 30 Mehefin 2026. Mae hyn yn golygu os oes gennych fesurydd GTR, efallai y bydd eich gwres a’ch dŵr poeth yn stopio gweithio fel arfer.
Beth yw’r Gwasanaeth Teleswitsio Radio (GTR)?
Mae’r GTR yn defnyddio signal radio i ddweud wrth rai mesuryddion trydan hŷn pryd i newid rhwng cyfraddau brig a chyfraddau arferol. Mae’n dod i ben oherwydd bod y gwasanaeth wedi cyrraedd diwedd ei oes weithredol. Os oes gennych fesurydd trydan GTR, bydd angen ei ddisodli.
Sut alla i ddweud a oes gen i fesurydd GTR?
Y ffordd orau yw cysylltu â’ch cyflenwr. Mae gan gyflenwyr fynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am y math o fesurydd sydd gennych. Rhai pethau y gallech edrych arnyn nhw a allai roi arwydd i chi bod gennych fesurydd GTR yw:
- Mae’r eiddo yn cael ei wresogi gan ddefnyddio gwresogyddion trydan neu storio.
- Rydych yn cael ynni rhatach ar adegau gwahanol o’r dydd (dros nos fel arfer). Gallai eich tariff fod yn un o’r canlynol: Economi 7, Economi 10 neu Total Heat Total Control.
- Nid oes unrhyw gyflenwad nwy i’r eiddo.
- Gallai fod blwch switsys ar wahân ger eich mesurydd gyda label Teleswitsio Radio (GTR) arno.
Os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych fesurydd GTR, dylech gysylltu â’ch cyflenwr trydan a byddan nhw’n trefnu i’w newid.
Os bydd eich cyflenwr ynni yn cysylltu â chi, cymerwch gamau i drefnu gwasanaeth gosod.
Os oes angen cymorth arnoch i gysylltu â’ch cyflenwr neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, ewch i’ch Hyb lleol a siaradwch â’r Tîm Cyngor Ariannol.
Fel arall, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071, neu e-bostiwch blwch post yr Hyb Cynghori yn hybcynghori@caerdydd.gov.uk
Gallwch hefyd fynd i wefan Ofgem am fwy o wybodaeth: https://www.ofgem.gov.uk/cy/gwybodaeth-i-ddefnyddwyr/cyngor-ar-ynni-i-gartrefi/newid-eich-mesurydd-trydan-radio-teleswitch





