
Oes gennych chi ffurflen gais am fudd-dal anabledd y mae angen help arnoch i’w chwblhau?
Bydd y Tîm Cyngor Ariannol mewn Hybiau gwahanol dros y misoedd nesaf, yn cynnal sesiynau wedi eu neilltuo i helpu cwsmeriaid i gwblhau ffurflenni cais am fudd-dal anabledd, gan gynnwys:
- Taliadau Annibyniaeth Bersonol
- Lwfans Byw i’r Anabl
- UC50
- ESA50
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Gweini
Bydd cyngor ariannol cyffredinol hefyd yn cael ei roi. Nid oes angen apwyntiad. Dewch draw ar y diwrnod!
Os ydych chi’n mynychu sesiwn, cofiwch ddod â’ch ffurflen, ac unrhyw ddogfennau perthnasol, i sicrhau y gall yr ymgynghorydd eich helpu gymaint â phosibl. Gallai hyn fod yn rhestrau presgripsiynau, nodiadau meddygon, neu dystiolaeth feddygol ffurfiol o gyflwr iechyd yr ymgeisydd. Gwiriwch y ffurflen gais am ddogfennau a dderbynnir.
Gweler isod am fanylion ble a phryd y bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal.
Hyb Trelái Dydd Mercher 29 Hydref 9am i 5pm
Hyb Llanrhymni Dydd Mercher 26 Tachwedd 9am i 5pm
Hyb Grangetown Dydd Llun 26 Ionawr 9am i 2pm
Hwb Powerhouse Dydd Mercher 25 Chwefror 10am i 6pm
Hyb y Tyllgoed Dydd Mercher 25 Mawrth 9am i 5pm
Hyb Ystum Taf Dydd Mercher 29 Ebrill 9am i 5pm
Hyb Llaneirwg Dydd Mercher 3 Mehefin 10am i 3:30pm
Hyb Star Dydd Mercher 1 Gorffennaf 10am i 6pm