Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Bydd y meini prawf cymhwysedd yn aros yr un fath. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7 ar gael.​​​​​​​​​​​​

Nid oes hawl defnyddio’r grant hwn ar gyfer TG. Mae’r grant ar gael blwyddyn yma i ddisgyblion sy’n dechrau:

  • Pob grŵp blwyddyn mewn ysgol gynradd a gynhelir​
  • Blynyddoedd 7, 8, 9, 10 neu Flwyddyn 11 ysgol uwchradd a gynhelir
  • Ysgol arbennig, sylfaen adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion, ac maent rhwng 4 a 15 oed​

Mae’r grant hefyd ar gael ar gyfer holl blant mewn gofal oedran ysgol gorfodol sy’n byw yng Nghaerdydd.

Bydd disgyblion heb atebolrwydd i arian cyhoeddus, a ceiswyr lloches sy’n mynd i mewn i unrhyw grŵp blwyddyn oedran cynradd; Blwyddyn 7; Blwyddyn 8; Blwyddyn 9; Flwyddyn 10 a Blwyddyn 11 ym mlwyddyn ysgol 2025 i 2026 hawl i gael grant.​

Rhaid bod y rhiant/gwarcheidwad sy’n cyflwyno’r cais yn derbyn un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Pensiwn (elfen gwarant)
  • Credyd Cynhwysol os mae enillion net y teulu yn llai na £7400

 

Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion yn Flaenorol) (cardiff.gov.uk)

Os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni.  ​​​029 2087 1071