Gall ein Tîm Cymorth Budd-dal Anabledd gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth arbenigol ynghylch y canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl i Blant
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Cynhwysol Gallu Cyfyngedig i Weithio
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Gofalwr

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol gyda llenwi ffurflenni cais, Ailystyriaethau Gorfodol ac apeliadau, a phan fo’n berthnasol yn cynrychioli unigolion mewn gwrandawiadau

Tribiwnlys.

Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb i wyneb, apwyntiadau ffôn ac ymweliadau â’r cartref.

Bydd tîm Cymorth Budd-daliadau Anabledd y Cyngor, sy’n rhan o Gyngor Ariannol, yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio mewn hybiau ledled y ddinas dros yr wythnosau nesaf i gefnogi trigolion gydag ymholiadau am fudd-daliadau anabledd.

Gall y tîm ddarparu cymorth gyda hawliadau, ailystyriaethau gorfodol ac apeliadau. Gallant hefyd helpu gyda rhai ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chyngor ariannol a chyfeirio at gymorth pellach.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fudd-daliadau anabledd ac angen rhywfaint o help, galwch heibio i weld y tîm yn:

Hyb Llaneirwg ar 28 Chwefror
Hyb Trelái a Chaerau ar 1 Mawrth
Hyb Llanisien ar 6 Mawrth
Hyb y Llyfrgell Ganolog ar 8 Mawrth
Hyb Grangetown ar 13 Mawrth
Hyb y Powerhouse ar 21 Mawrth

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal rhwng 10am a 3pm.

Os ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n elwa o siarad â’r tîm, rhannwch fanylion y sesiynau hyn.

I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch cymorthbudd-dalanabledd@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch ein Llinell Gyngor 02920 871 071