Bydd y Grant Hanfodion Ysgol yn disodli’r Grant Datblygu Disgyblion o 1 Gorffennaf 2023 ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Bydd y meini prawf cymhwysedd yn aros yr un fath. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7 ar gael.​​​​​​​​​​​​

Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Nid oes hawl defnyddio’r grant hwn ar gyfer TG. Mae’r grant ar gael blwyddyn yma i ddisgyblion sy’n dechrau:

  • Pob grŵp blwyddyn mewn ysgol gynradd a gynhelir​
  • Blynyddoedd 7, 8, 9, 10 neu Flwyddyn 11 ysgol uwchradd a gynhelir
  • Ysgol arbennig, sylfaen adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion, ac maent rhwng 4 a 15 oed​

Mae’r grant hefyd ar gael ar gyfer holl blant mewn gofal oedran ysgol gorfodol sy’n byw yng Nghaerdydd.

Bydd disgyblion heb atebolrwydd i arian cyhoeddus, a ceiswyr lloches sy’n mynd i mewn i unrhyw grŵp blwyddyn oedran cynradd; Blwyddyn 7; Blwyddyn 8; Blwyddyn 9; Flwyddyn 10 a Blwyddyn 11 ym mlwyddyn ysgol 2022 i 2023 hawl i gael grant.​

Rhaid bod y rhiant/gwarcheidwad sy’n cyflwyno’r cais yn derbyn un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai
  • Credyd Pensiwn (elfen gwarant)
  • Credyd Cynhwysol os mae os mae enillion net y teulu yn llai na £7400

​Nid yw Credyd Treth Gwaith yn Fudd-dal cymwys ac os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith ni fydd hawl gennych i Grant Gwisg Ysgol hyd yn oed os ydych yn derbyn hwn ynghyd ag un o’r incymau uchod.

Grant Datblygu Disgyblion (Grant Gwisg) (caerdydd.gov.uk)

Os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni.  ​​​029 2053 7250​