Grantiau a Gostyngiadau

The Hub logo | Logo yr Hyb

Gall y Tîm Cyngor ar Arian eich helpu i gael mwy am eich arian.

Gallwn eich helpu i wneud cais am lawer o wahanol grantiau a gostyngiadau a all eich helpu i leihau’r hyn yr ydych yn ei wario fel bod gennych fwy yn eich poced ar ddiwedd pob mis.

Mae llawer ohonynt y gallwn eich helpu i wneud cais amdanynt gan gynnwys:

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071

Y Dreth Gyngor

Mae sawl gostyngiad a disgownt ar gael. Gallwn wirio pa rai y gallwch wneud cais ar eu cyfer a’ch helpu i wneud hynny.

Tariffau Dŵr Cymru

Os ydych ar incwm isel, os oes teulu mawr gennych neu os oes anableddau neu gyflyrau iechyd gennych sy’n golygu eich bod yn defnyddio mwy o ddŵr, efallai y byddwch yn gymwys i gael  bil dŵr is. Gallwn gadarnhau eich bod yn gymwys a’ch helpu i wneud cais.

Os ydych mewn dyled ddifrifol i Dŵr Cymru, gallwn hyd yn oed eich helpu i wneud cais er mwyn helpu i leihau’r ddyled sydd arnoch.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Taliad £150 untro ar eich cyfrif ynni sydd ar gael os ydych yn derbyn budd[1]daliadau penodol yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Mae’r cynllun yn newid eleni a bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn yr arian hwn yn awtomatig.

Wn i ddim a ydw i’n gymwys 

Gallwch wirio hyn ar-lein: Warm Home Discount Scheme: Overview – GOV.UK (www.gov.uk)

Neu ffoniwch:

Llinell gymorth Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Ffôn: 0800 107 8002
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm

NEST

Os ydych yn cael trafferth gwresogi eich cartref, yna gall Cynllun NEST Llywodraeth Cymru eich helpu. Byddan nhw’n edrych ar effeithlonrwydd ynni yn eich cartref ac yn edrych ar ffyrdd o’i wella.  Maen nhw’n cynnig popeth o gyngor i gynnig inswleiddiad neu foeler newydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Cronfa Cymorth Dewisol (CCD)

Os oes angen nwyddau cartref neu arian parod brys arnoch, gallwn eich helpu i wneud cais am gymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol. Mae hwn yn brosiect gan Lywodraeth Cymru gyda phenderfyniadau fel arfer yn cael eu gwneud o fewn 24 awr ar arian parod neu bythefnos am nwyddau ac eitemau i’r cartref.

Cynlluniau Nwyddau Gwyn

Mae gan rai cwmnïau cyfleustodau a sefydliadau elusennol gynlluniau sy’n cynnig nwyddau gwyn i’r rheini sydd ar fudd-daliadau neu sydd ar incwm isel.  Gallwn eich helpu i chwilio am gynlluniau i’ch helpu.

Trwydded Deledu

Mae angen Trwydded Deledu i wylio neu recordio rhaglenni ar deledu, cyfrifiadur neu ddyfais arall. Gallwn eich helpu i gyllidebu ar gyfer hyn a sefydlu cynllun talu.