Tanwydd

The Hub logo | Logo yr Hyb

Gall biliau cyfleustodau fel nwy, trydan a dŵr gymryd rhan fawr o’ch incwm.

Mae yna ffyrdd a restrir isod i’ch helpu i leihau eich biliau, ond os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni neu galwch draw i Hyb am fwy o wybodaeth.

 

Biliau Nwy a Thrydan

Gall biliau cyfleustodau fod yn uchel iawn a gallant gymryd llawer o’ch incwm.

Os ydych mewn dyled gyda’ch bil nwy neu drydan, cysylltwch â’ch cyflenwr gan fod llawer o gynlluniau’n cael eu cynnal i helpu pobl mewn dyled. Gallwn eich helpu hefyd i wneud cais.

National Energy Action (NEA) – yr elusen tlodi tanwydd cenedlaethol

Mae NEA yn cynnig cymorth ar gyfer ystod o faterion sy’n gysylltiedig ag ynni gan gynnwys newid cyflenwyr, helpu gyda dyled tanwydd, gwneud cais am gronfeydd ymddiriedaeth, effeithlonrwydd ynni a chyfraddau dŵr.

 

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Taliad £150 untro ar eich cyfrif ynni sydd ar gael os ydych yn derbyn budd[1]daliadau penodol yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

Wn i ddim a ydw i’n gymwys 

Gallwch wirio hyn ar-lein: Warm Home Discount Scheme: Overview – GOV.UK (www.gov.uk)

Neu ffoniwch:

Llinell gymorth Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Ffôn: 0800 107 8002
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm

 

NEST

Os ydych yn cael trafferth gwresogi eich cartref, yna gall Cynllun NEST Llywodraeth Cymru eich helpu. Byddan nhw’n edrych ar effeithlonrwydd ynni yn eich cartref ac yn edrych ar ffyrdd o’i wella.  Maen nhw’n cynnig popeth o gyngor i gynnig inswleiddiad neu foeler newydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Ymddiriedaeth Ynni:  Cymorth gyda dyledion tanwydd

Gall Ymddiriedolaethau Ynni eich helpu i:

  • Dalu dyledion nwy ac ynni a dyledion cartref eraill e.e. ôl-ddyledion rhent, dyledion y dreth gyngor
  • Prynu eitemau cartref hanfodol e.e. peiriannau golchi a phoptai.
  • Cynnig mathau eraill o gyngor ariannol e.e. methdalu, blaendaliadau a chostau angladd.

Gwiriwch a yw eich cyflenwr ynni’n rhedeg Ymddiriedolaeth Ynni.  Os yw’n gwneud hynny, gwnewch gais i’r ymddiriedolaeth hon trwy’r cais ar-lein.  Os nad oes gan eich cyflenwr Ymddiriedolaeth Ynni, bydd angen i chi wneud cais i Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain.  Mae modd gweld yr holl ffurflenni cais ar wefan yr ymddiriedolaeth ynni.

Sut i Wneud Cais
Ffôn: Cysylltwch â’ch darparwr neu ffoniwch y Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071
Ewch i:  Eich hyb lleol

 

Gwres Fforddiadwy ECO

Efallai eich bod yn gymwys i gael help dan Ymrwymiad Gwres Fforddiadwy ECO os:

  • Yw’ch eiddo yn eiddo â pherchnogion preifat neu’n eiddo rhent preifat.
  • Mae aelodau’r cartref yn derbyn budd-daliadau’r wlad. Mae’r rhain yn cynnwys Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Treth Plant, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (neu gyffelyb) a’r Credyd Treth Gwaith, er bod amodau eraill yn berthnasol i rai o’r budd-daliadau hyn.

Mae gan y Cynllun Gwres Fforddiadwy grantiau ar gyfer:

  • Grant Gwres Canolog
  • Grant Boeler Nwy
  • Grant Insiwleiddio Waliau Ceudod
  • Grant Inswleiddio Waliau Solet
  • Grant Inswleiddio Llofft
  • Grant Inswleiddio Ystafell Atig

Sut i Wneud Cais
Ar-lein: www.affordablewarmthscheme.co.uk
Cysylltwch â’ch darparwr ynni i gael rhagor o fanylion.

Dŵr Cymru

Os ydych ar incwm isel, os oes teulu mawr gennych neu os oes anableddau neu gyflyrau iechyd gennych sy’n golygu eich bod yn defnyddio mwy o ddŵr, efallai y byddwch yn gymwys i gael  bil dŵr is.

Os ydych mewn dyled ddifrifol i Dŵr Cymru, gallwn eich helpu i wneud cais i’w cronfa cymorth i gwsmeriaid er mwyn helpu i leihau’r hyn sy’n ddyledus gennych os na allwch wneud hyn eich hun.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071

Cyngor ar arbed ynni

  • Gall newid 1 bath bob wythnos am gawod 4 munud arbed hyd at £11 i chi y flwyddyn.
  • Gall golchi eich dillad unwaith yn llai bob wythnos, llenwi eich peiriant golchi dillad bob tro (gan osgoi ei orlwytho) a golchi ar 30⁰C arbed hyd at £28 i chi y flwyddyn (cofiwch y gallai fod angen tymheredd uwch arnoch i olchi dillad brwnt).
  • Gall gwefru eich dyfeisiau pan fydd eu batri’n agos at 0% a’u datgysylltu ar ôl cyrraedd 100% arbed hyd at £60 i chi y flwyddyn.
  • Gall berwi dim ond y dŵr sydd ei angen arnoch / defnyddio tegell llai o faint arbed hyd at £8 i chi y flwyddyn.
  • Gall diffodd y golau pan nad ydych yn yr ystafell, ni waeth am ba hyd, arbed hyd at £20 i chi y flwyddyn.
  • Gall diffodd dyfeisiau nad ydych yn eu defnyddio wrth y wal a pheidio â’u gadael yn y modd gorffwys arbed hyd at £55 i chi y flwyddyn.
  • Gall gwefru eich dyfeisiau pan fydd eu batri’n agos at 0% a’u datgysylltu ar ôl cyrraedd 100% arbed hyd at £60 i chi y flwyddyn.
  • Gall berwi dim ond y dŵr sydd ei angen arnoch / defnyddio tegell llai o faint arbed hyd at £8 i chi y flwyddyn.
  • Dylech droi’r gwres ymlaen dim ond pan fydd ei angen arnoch. Mae’n well troi’r gwres ymlaen a’i ddiffodd yn gyson na’i fod ymlaen o hyd.
  • Defnyddiwch thermostatau unigol ar gyfer pob rheiddiadur yn ogystal â’r prif thermostat ar gyfer y cartref cyfan. Gall sicrhau bod y thermostat ar reiddiaduron yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio mor aml, fel y cyntedd ac ystafelloedd gwely, wedi’u gosod ar dymheredd is, fydd yn golygu na fyddant yn parhau i wresogi ar ôl cyrraedd y tymheredd hwn, arbed hyd at £85 i chi y flwyddyn.
  • Mae symud dodrefn i ffwrdd o reiddiaduron yn caniatáu i’r gwres symud o amgylch yr ystafell yn fwy effeithlon.
  • Trowch y gwres ar flaen boeler cyfunol lawr i 55⁰, sef y gwres derbyniol cyfartalog. Po boethaf yw tymheredd y boeler, y mwyaf o ynni mae’n ei ddefnyddio.