Silhouette of a person image

Mae’r grant hwn gan Lywodraeth Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau a’i ddiben yw helpu pobl sydd ag ôl-ddyledion rhent oherwydd effaith pandemig Covid-19.  Nid oes angen i chi fod yn hawlio budd-daliadau i fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn ac ni fydd angen i chi ei ad-dalu.

​Rhaid i chi fod wedi mynd i galedi ariannol oherwydd pandemig Covid-19 sydd wedi golygu nad oedd yn bosibl i chi dalu’ch rhent yn llawn.

Ni allwch dderbyn y grant Caledi i Denantiaid os nad oeddech yn dioddef caledi ariannol yn ystod Covid-19 neu os ydych wedi mynd i ôl-ddyledion rhent oherwydd na wnaethoch dalu eich rhent pan gallech fod wedi gwneud.

Ar ôl llenwi’r ffurflen, os ydych chi’n gymwys, bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad a bydd angen i chi gyflwyno’r dystiolaeth ganlynol:

  • prawf hunaniaeth (trwydded yrru neu basbort neu dystysgrif geni gyda biliau’r aelwyd sy’n profi eich cyfeiriad am y tri mis diwethaf)
  • copi o’ch cyfriflenni banc ar gyfer y ddau fis diwethaf o leiaf (gan gynnwys unrhyw gyfrifon cynilo sydd gennych)
  • copi o’ch cytundeb tenantiaeth tystiolaeth a manylion am y rheswm nad ydych wedi llwyddo i dalu’ch rhent oherwydd Covid-19
  • datganiad ysgrifenedig gan eich landlord neu asiant yn cadarnhau eich bod yn denant iddynt a’ch bod wedi mynd i ôl-ddyledion rhent gan gynnwys swm yr ôl-ddyledion a phryd y cronnwyd.

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent neu os yw eich tenantiaeth mewn perygl, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl na fyddwch yn gymwys ar gyfer y Grant Caledi i Denantiaid, cysylltwch â ni gan y gall fod ffyrdd eraill y gallwn eich helpu. ​

Grant Caledi i Denantiaid (cardiff.gov.uk)