Bank notes and coins

Mae’r cynllun TCHY wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n gweithio gydag incwm isel na allant weithio o gartref ac felly byddant yn colli enillion pan dywedir wrthynt i hunanynysu gan gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Tîm asesu budd-daliadau Cyngor Caerdydd fydd yn gyfrifol am gynnal y gwiriadau perthnasol a gwneud y taliad sefydlog o £750.00 i’r rhai sy’n gymwys ac yn byw yng Nghaerdydd. Ni fydd y taliad hwn yn effeithio ar fudd-daliadau eraill.

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy wefan y Cyngor o 16 Tachwedd 2020 ar www.caerdydd.gov.uk/taliadhunanynysu

Gall ymgeiswyr na allant ddefnyddio’r rhyngrwyd neu sydd angen cymorth ychwanegol ffonio’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://llyw.cymru/cynllun-cymorth-hunanynysu neu drwy ffonio’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.