An elderly woman with her adult daughter

A ydych chi neu aelod o’r teulu wedi derbyn llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol?  Anfonir y llythyr hwn at bobl sydd â’r risg uchaf pe baent yn dal Covid-19.

Os ydych wedi cael llythyr ac nad oes unrhyw un gennych i’ch helpu gyda bwyd, meddyginiaethau neu os oes anghenion gofal cymdeithasol gennych, byddwn yn eich helpu i gael y gwasanaethau hyn.

Bwyd

Mae bod ar y rhestr gysgodol yn golygu y gallwch gael cyflenwadau blaenoriaeth gan archfarchnadoedd.  Gall yr archfarchnadoedd gysylltu â chi’n uniongyrchol, neu efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw eich hun i drefnu danfoniadau – mae pob un yn gweithio’n wahanol.

 

Mae yna hefyd amrywiaeth o siopau a busnesau sy’n cynnig gwasanaethau danfon bwyd ar y wefan www.gwirfoddolicaerdydd.co.uk.

Meddyginiaethau

Mae’r rhan fwyaf o fferyllfeydd lleol bellach yn cynnig gwasanaethau cyflenwi nwyddau, cysylltwch â’ch fferyllfa leol i gael manylion.

Os oes angen help arnoch gyda gofal cymdeithasol a/neu feddyginiaethau – ffoniwch 02920 234 234

Os oes angen help gyda bwyd arnoch, ffoniwch 02920 871 071

Nodwch, os nad ydych wedi cael llythyr a’ch bod yn credu y dylech fod wedi cael, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Yn anffodus, nid yw ein staff yn gallu eich ychwanegu at y rhestr.