A oes angen help arnoch i brynu gwisg ysgol, bagiau, cit chwaraeon neu glwb? Os ydych ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i gael Grant Datblygu Disgyblion os yw eich plentyn:

  • yn dechrau mewn dosbarth derbyn neu flwyddyn 3 mewn ysgol gynradd a gynhelir
  • yn dechrau ym Mlwyddyn 7 neu Flwyddyn 10 mewn ysgol uwchradd a gynhelir
  • mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion dysgu ychwanegol neu uned cyfeirio disgyblion ac yn 4, 7, 11 neu 14 oed.

 

 

 

Gweler yma neu ffoniwch 029 2053 7250