Tai

The Hub logo | Logo yr Hyb

Rydym yn gwybod bod poeni am fforddio lle rydych yn byw, problemau gyda’ch landlord, neu geisio dod o hyd i rywle newydd i fyw yn gallu bod yn anodd iawn.

Gallwn eich helpu gyda rhai o’r pryderon ariannol a’ch cyfeirio at dimau eraill neu sefydliadau dibynadwy i’ch helpu pan na allwn wneud hynny.

Fforddio eich cartref

Ewch i budd-daliadau ac incwm i weld pa gymorth sydd ar gael.

Os ydych yn credu eich bod mewn perygl o golli eich cartref neu eisoes yn ddigartref

Mae cymorth ar gael i bob deiliad contract sy’n cael trafferth talu rhent, p’un a yw’n cael budd-daliadau ai peidio, gan gynnwys deiliaid contract cymdeithas dai, deiliaid contract y Cyngor a’r rhai sy’n rhentu gan landlord preifat.

Mae cymorth ar gael drwy gysylltu â’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Mae’r timau Dewisiadau Tai a Chyngor Tai wedi gweithio gyda’i gilydd i greu pecyn cynhwysfawr i’r rheini sydd wedi cronni ôl-ddyledion rhent neu sy’n cael trafferth talu eu hymrwymiadau rhent parhaus.

Bydd aelwydydd sydd ag ôl-ddyledion rhent yn gallu gwneud cais am gymorth ymarferol i leihau eu hôl-ddyledion, yn ogystal â chael cyngor am wasanaethau’r Cyngor a all helpu i fynd i’r afael â’u pwysau ariannol, megis rheoli arian a chyngor ar ddyledion, gwybodaeth am fudd-daliadau, grantiau a gostyngiadau, a chyfeirio at gymorth cyflogaeth a hyfforddiant.

Dylai deiliaid contract sydd angen cymorth gysylltu â’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Cymorth i landlordiaid

Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan landlordiaid sydd â deiliaid contract ag ôl-ddyledion rhent. Mae gwasanaethau’r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion eiddo rhent preifat i ddarparu ymyriadau i achub contractau. Gall landlordiaid ffonio 029 2057 0750 neu e-bostio TimSectorRhentPreifat@caerdydd.gov.uk

Deiliaid contract y Cyngor

Gellir cysylltu â’n Tîm Cyswllt Lles ar 029 2087 1071 a gallant eich helpu gyda chyngor ariannol a gwneud cynllun gyda chi i’ch helpu i fforddio eich rhent ac unrhyw ôl-ddyledion.

Deiliaid contract cymdeithas dai

Os ydych yn rhentu eich cartref gan Gymdeithas Dai, mae ganddynt wahanol dimau a chynlluniau i’ch helpu i reoli eich contract. Gweler ein rhestr o bartneriaid i gael eu manylion cyswllt.

Deiliaid contract y sector rhentu preifat

Bellach, mae’n rhaid i landlordiaid ac asiantau preifat gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod contractau’n deg, ac eiddo’n ddiogel. Gallwch edrych ar y wefan i weld a yw cyfeiriadau a landlordiaid wedi’u cofrestru, cyn i chi lofnodi contract.

Hefyd, mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â rhentu gan landlord preifat fel arall, cysylltwch â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 029 2057 0750

Cymorth os ydych yn cael trafferth gyda’ch morgais

Mae’r Ganolfan Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i aelwydydd sy’n cael trafferth talu eu morgais neu unrhyw fenthyciad sydd wedi’i sicrhau ar eich cartref. Gallant hefyd helpu pan fydd cyfnod y morgais neu fenthyciad wedi dod i ben.

Bydd y tîm yn cynorthwyo ag achosion llys, gan gysylltu â chwmnïau morgais a chredydwyr, gan adolygu eich budd-daliadau, eich incwm a’ch materion dyled. Eu prif nod yw eich cadw yn eich cartref.

Cysylltwch â nhw ar 029 2057 0750 neu e-bostiwch  TimMorgaisaDyledCDT@caerdydd.gov.uk

Chwilio am gartref newydd?

Rhestr aros am dai cymdeithasol (Rhestr aros gyffredin) a Throsglwyddiadau

Os ydych yn dymuno ymuno â’r rhestr aros tai neu os ydych yn ddeiliad contract cyngor neu gymdeithas dai presennol ac yn dymuno gwneud cais am drosglwyddiad, gallwch lenwi ffurflen gais tai ar-lein yn Tai Ar-lein (caerdydd.gov.uk)

Gallwch ymweld â Hyb neu ffonio’r llinell Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 a dewis opsiwn 1, i gael rhagor o wybodaeth.

Os oes gennych ymholiad am y rhestr aros, ffoniwch y llinell Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 a dewiswch opsiwn 1 neu e-bostiwch SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk

Trosglwyddiadau Cymunedol

Os ydych yn ddeiliad contract y Cyngor ac yn dymuno cyfnewid, gallwch lenwi Ffurflen Gais am Drosglwyddiad Cymunedol ar-lein yn Tai Ar-lein (caerdydd.gov.uk)

Os ydych yn ddeiliad contract cymdeithas dai, bydd angen i chi siarad â’ch swyddog tai yn y lle cyntaf.

Faint o gymorth y gallaf ei gael i dalu fy rhent?

Mae taliadau Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai yn dibynnu ar brawf modd, ac yn y rhan fwyaf o achosion maent yn seiliedig ar Lwfans Tai Lleol ar gyfer deiliaid contract rhent preifat.

Mae Meini Prawf Maint y Sector Cymdeithasol (Y Dreth Ystafell Wely) yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan eu cyngor lleol neu gymdeithas dai.

Mae’n syniad da gweld faint o gymorth y gallech ei gael, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch symud, fel eich bod yn gwybod y gallwch fforddio eich cartref newydd.

Bydd ein cyfrifiannell budd-daliadau yn darparu amcangyfrif o’r help y gallech fod â hawl iddo. Gweler cyfrifiannell budd-daliadau

Dod o hyd i landlord a fydd yn derbyn Credyd Cynhwysol

Gall y Ganolfan Dewisiadau Tai ddarparu manylion am landlordiaid sector preifat sy’n derbyn taliadau budd-dal. Cysylltwch â nhw ar 029 2057 0750 neu CanolfanDewisiadauTai@caerdydd.gov.uk

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071