Cyn-filwyr, Lluoedd Arfog a’u teuluoedd

Mae’r Hyb yn cynnig cyngor arbenigol i gyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’u teuluoedd, gan gynnwys help gyda budd-daliadau, tai a chyflogaeth.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar: 029 2087 1071 neu 07980 953539
neu e-bostiwch: cyngorigynfilwyr@caerdydd.gov.uk
Gall y partneriaid dibynadwy canlynol hefyd ddarparu cymorth a chefnogaeth bellach
Elusen y Milwyr ABF yn darparu cymorth ymarferol ac ariannol amserol i bedair cenhedlaeth o deuluoedd y Fyddin, y rheini sydd ag anableddau corfforol, sy’n dioddef o salwch meddwl, y digartref, y di-waith a’r henoed.
Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gofalu ac yn ymgyrchu dros gymuned y cyn-Filwyr. Benthyciadau busnesau bach, grantiau hyfforddi a chyngor.
Mae Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol yn bodoli i ddarparu cymorth i’r rheini o deulu estynedig y Llu Awyr Brenhinol sydd angen cymorth o ganlyniad i dlodi, salwch, anabledd, damwain, eiddilwch neu adfyd arall.
Gall Veterans UK roi cyngor ar gwybodaeth a chanllawiau ar Bensiynau Rhyfel, Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, coffadwriaethau, medalau a materion yn ymwneud â chyn-filwyr.
Am ragor o gymorth a chefnogaeth ewch i Pa gymorth alla i ei gael?
Dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth:
‘Mae cael y gefnogaeth ymroddedig honno wedi golygu llai o straen i mi, ac mae llywio fy mhroblemau wedi bod yn haws. Rydw i hefyd yn llawer gwell fy myd nawr, gan wybod beth sydd gen i hawl iddo.’





