Rhent, Morgais a Threth Gyngor

The Hub logo | Logo yr Hyb

Os ydych yn rhentu eich cartref

Os ydych yn rhentu eich cartref, mae amrywiaeth o gynlluniau a manteision ar gael i helpu. Bydd ein Tîm Cyngor ar Arian yn gallu eich tywys drwy’r opsiynau gorau i chi.

  • Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i’ch helpu gyda’ch costau byw. Mae’n cyfuno chwe budd-dâl yn un taliad ac os ydych yn rhentu eich cartref, gall gynnwys costau tai. Efallai y byddwch chi’n gallu ei gael os ydych chi ar incwm isel neu’n ddi-waith.
  • Mae Budd-dal Tai ar gael i helpu gyda chostau rhent os ydych yn byw mewn mathau penodol o lety megis rhai tai dros dro neu dai â chymorth. Fel arfer gallwch wneud cais os ydych yn berson sengl o oedran pensiwn, neu’n gwpl pensiwn y wladwriaeth. Gallwch wneud cais am fudd-dal tai ar-lein.
  • Gellir gwneud Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (gydag elfen tai) a bod angen help ychwanegol arnoch. Mae’r taliadau hyn yn gyfyngedig a dim ond i bobl sydd yn wynebu caledi ariannol difrifol a chanddynt resymau da iawn dros orfod aros yn eu cartref presennol.

Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent neu os oes ôl-ddyledion rhent gennych, dylech gadw mewn cysylltiad â’ch landlord.

Os oes gennych forgais

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (CLlF)

Os ydych yn berchennog tŷ efallai y gallwch gael cymorth tuag at y taliadau llog ar eich morgais neu fenthyciadau rydych wedi’u cymryd ar gyfer gwaith atgyweirio a gwelliannau penodol i’ch cartref. Yr enw ar hyn yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (CLlF). Caiff ei dalu fel benthyciad, y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu â llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth eich cartref.

Cymorth os ydych yn cael trafferth gyda’ch morgais

Mae’r Ganolfan Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i aelwydydd sy’n cael trafferth talu eu morgais neu unrhyw fenthyciad sydd wedi’i sicrhau ar eich cartref. Gallant hefyd helpu pan fydd cyfnod y morgais neu fenthyciad wedi dod i ben.

Bydd y tîm yn cynorthwyo ag achosion llys, gan gysylltu â chwmnïau morgais a chredydwyr, gan adolygu eich budd-daliadau, eich incwm a’ch materion dyled. Eu prif nod yw eich cadw yn eich cartref.

Cysylltwch â nhw ar 029 2057 0750 neu e-bostiwch  TimMorgaisaDyledCDT@caerdydd.gov.uk

Cynllun Cymorth i Aros Llywodraeth Cymru

Gall y cynllun Cymorth i Aros roi cyngor annibynnol i berchnogion tai ar faterion ariannol a morgeisi a rhoi benthyciad ecwiti di-log 5 mlynedd i leihau eu taliadau morgais misol i lefel fforddiadwy. Ni fydd angen i chi ddechrau ad-dalu’r benthyciad am 5 mlynedd, ac ni fydd llog yn cael ei gymhwyso yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y benthyciad yn cael ei ddefnyddio i leihau ôl-ddyledion morgais presennol yn ogystal â’r balans sy’n weddill ar y morgais.

Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen Cymorth i Aros ar wefan Llywodraeth Cymru, neu cysylltwch â Thîm Morgais a Dyled Cyngor Caerdydd drwy ffonio 029 2057 0750 neu e-bostio TimMorgaisaDyledCDT@caerdydd.gov.uk

Partneriaid

Gall ein Partneriaid, megis Cyngor ar Bopeth,eich helpu gydag ôl-ddyledion a thaliadau morgais.

Dylech bob amser gadw mewn cysylltiad â’ch darparwr morgais os ydych yn cael trafferth i dalu eich ad-daliadau gan y gallant eich helpu i gadw eich cartref.

Cymorth Treth Gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y bydd gennych hawl i gael rhywfaint o gymorth tuag at dalu eich treth gyngor.

  • Mae Gostyngiad Treth Gyngor ar gael i bobl ar incwm isel sy’n gorfod talu’r Dreth Gyngor ar gyfer y cartref maen nhw’n byw ynddo. Os byddwch yn gymwys, bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n uniongyrchol i’ch cyfrif a bydd bil newydd yn cael ei anfon atoch.
  • Mae yna ostyngiadau a disgowntiau eraill ar gael os credwch y gallech gael trafferth i dalu eich Treth Gyngor.
Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071