
Cyflwynwyd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron i 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Darparodd Llywodraeth Cymru lefel o ychwanegiad at rai o’r cronfeydd hyn. Mae bron i hanner y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru yn parhau i fod heb eu hawlio. Nid yw bron hanner y bobl ifanc sydd bellach yn gymwys (18+) i gael mynediad at eu cynilion wedi gwneud hynny. Mae llawer ddim yn ymwybodol bod ganddynt gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Mwy o wybodaeth am Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant