Free school meals - photo of a cooked dinner

*Cywir ar 10/07/2025 – gwirio manylion cyn teithio

ASDA

Mae plant dan 16 oed yn bwyta am ddim o ddydd Llun i ddydd Gwener ar ôl 3pm, pan fydd oedolyn yn gwario £4 yn y caffi.

Beefeater

Gall dau blentyn gael brecwast am ddim wrth i un oedolyn dalu am fwyd.

Bills

Gall hyd at 2 o blant 10 oed ac iau fwyta am ddim drwy’r dydd o 21 Gorffennaf i 29 Awst (ac eithrio dydd Sadwrn a dydd Sul) pan fydd un oedolyn yn archebu unrhyw brif bryd.

 Brains

Gall plant gael unrhyw brif bryd o fwydlen “Little Dragons” am £1, gyda
phrif bryd oedolion pris llawn. Ar ddydd Mercher yn unig.

Brewdog

Gall plant gael pryd am ddim pan fydd oedolyn yn bwyta.  Ar gael o 19 Gorffennaf i 31 Awst. Rhaid i gwsmeriaid archebu ymlaen llaw.

Brewers Fayre

Brecwast am ddim i hyd at ddau blentyn o dan 16 oed gyda phob brecwast i oedolion a brynir.

Farmhouse Inns

Gall hyd at 2 blentyn fwyta am ddim gydag un oedolyn sy’n talu, rhaid archebu bwrdd.  Mae’r cynnig ar gael o 18 Gorffennaf i 5 Medi.

Frankie and Benny’s

Gall 1 plentyn fwyta am ddim gyda phob prif bryd oedolyn a brynir. Ar gael o 14 Gorffennaf i 31 Awst, 7 diwrnod yr wythnos.  Ffoniwch ymlaen llaw oherwydd gall diwrnodau digwyddiadau effeithio ar y cynnig.

Future Inns

Gall plant dan 5 oed fwyta am ddim pan brynir unrhyw bryd oedolyn.

Hungry Horse

Gall hyd at 2 blentyn fwyta prif bryd am £1 yr un gydag oedolyn sy’n talu.  Dydd Llun yn unig.

IKEA

Mae prydau plant yn dechrau o 95c.

Las Iguanas

Lawrlwythwch yr ap ac ymuno â ‘My Las Iguanas’ am brydau am ddim ar gyfer plant dan 12 oed. Gallwch gael prif bryd, dau bryd ochr a phwdin gyda phob prif bryd oedolyn a brynir.

Morrisons

Gall plant fwyta am ddim drwy’r dydd yng nghaffis Morrisons ledled y wlad, gyda phob pryd oedolyn dros £5.

Dunelm – Pausa

Pan fydd oedolyn yn gwario £4 yn y caffi, gall plant fwynhau un prif bryd bach, dau fyrbryd a diod am ddim.

Premier Inn

Gall hyd at 2 blentyn dan 16 oed fwyta brecwast am ddim, pan fydd oedolyn yn archebu brecwast neu gynnig pryd.

Sizzling Pub and Grill

O hanner dydd yn ystod gwyliau’r ysgol (dydd Llun i ddydd Gwener), gall plant fwyta am £1 pan mae oedolyn yn prynu prif bryd.

TGI Fridays

Aelodau Stripes Rewards – gall plant fwyta am ddim trwy’r dydd bob dydd gyda phob prif bryd oedolyn a brynir.  Lawrlwythwch yr ap, a chofrestru, i fanteisio ar y cynnig hwn.

Travelodge

Prynwch frecwast “Anghyfyngedig” i oedolion ac mae plant dan 15 oed yn bwyta am £1.

Yo!

Gall plant fwyta am ddim yn YO! Sushi yn ystod gwyliau’r haf, trwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener wrth fwyta gydag oedolyn sy’n talu (rhaid gwario o leiaf £10).