
Sialens Ddarllen yr Haf – Am Ddim
Gall plant 4 i 12 oed yng Nghaerdydd ymweld â’u llyfrgell leol i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2025.
Digwyddiadau Hybiau – Am Ddim
Gweithdai Gŵyl Ddysgu Celfyddydau Haf Plant 2025 – Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer – Ffioedd yn berthnasol
O 6 i 15 Awst, gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau fel actio a chyfarwyddo a choginio a chrochenwaith.
Am ragor o fanylion / I gofrestru ffoniwch: 02920 872030
Nofio – Pyllau Amrywiol Llun-Gwener 1-4pm – Am Ddim
Plant dan 16 oed yn nofio am ddim. Archebwch ymlaen llaw.
Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd – Gweithgareddau a chwaraeon amrywiol i blant 11-25 oed – Am Ddim a Chost Isel
O Glybiau Coginio a Garddio i Glwb Llyfrau a Sesiynau Pêl-droed. Mae amrywiaeth o weithgareddau a chwaraeon ar gael.
Teithiau cerdded, Parciau a Llwybrau – Amrywiol – Am Ddim a Chost Isel
Archwiliwch eich parciau a’ch llwybrau lleol a gwneud y gorau o’r awyr agored yn ystod y gwyliau.
Pad Sblasio – Parc Fictoria – Am Ddim
Ar agor mewn tywydd braf a hefyd gyda sesiynau ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol.
Chwarae Plant – Gweithgareddau amrywiol i blant 5-14 oed – Am ddim
Gemau grŵp, chwaraeon a chelf a chrefft.
Castell Caerdydd – Am ddim
Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd gallwch gael Allwedd y Castell ac ymweld am ddim.
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan – Am Ddim a Chost Isel
Crwydrwch y safle a mwynhau’r gweithgareddau drwy gydol yr haf.
Morglawdd Bae Caerdydd – Am Ddim
Perffaith ar gyfer taith gerdded neu daith feicio ac yn hygyrch i bawb. Mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden hefyd yn digwydd ar hyd y morglawdd.