Gall ein Tîm Cymorth Budd-dal Anabledd gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth arbenigol ynghylch y canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl i Blant
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Cynhwysol Gallu Cyfyngedig i Weithio
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Math Newydd

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol gyda llenwi ffurflenni cais, Ailystyriaethau Gorfodol ac apeliadau, a phan fo’n berthnasol yn cynrychioli unigolion mewn gwrandawiadau Tribiwnlys.

Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb i wyneb, apwyntiadau ffôn ac ymweliadau â’r cartref.

Gall y tîm ddarparu cymorth gyda hawliadau, ailystyriaethau gorfodol ac apeliadau. Gallant hefyd helpu gyda rhai ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chyngor ariannol a chyfeirio at gymorth pellach.

I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch cymorthbudd-dalanabledd@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch ein Llinell Gyngor 02920 871 071