Helpwr Arian

Mae gwefan Helpwr Arian yn rhoi cymorth am ddim a diduedd gydag arian, gan gynnwys cyngor ariannol ar feysydd gan gynnwys:
- credyd
- cynilion
- pensiynau ac ymddeol
- yswiriant
- ysgariad a gwahanu
Mae’r wefan hefyd yn cynnwys ystod eang o offer defnyddiol a fydd yn eich helpu i gyfrifo’r ffigurau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rhai o’r sefyllfaoedd ariannol mwyaf cyffredin. Mae’r offer yn cynnwys:
- cyfrifiannell cynilo
- cymorth blaenoriaethu biliau
- cynllunydd ariannol i bobl sydd â babi
- cyfrifiannell pensiwn
Gallwch weld y rhain, a mwy o offer defnyddiol, yn Offer a chyfrifianellau
Mae gan y wefan gyfleuster ‘Siaradwch â ni yn fyw’, lle gallwch siarad yn uniongyrchol â Helpwr Arian dros y ffôn, e-bost neu sgwrs gwe, a all eich cynorthwyo os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.
