Atgyweiriadau Tai

Deiliaid Contract y Cyngor
Mae Tîm Atgyweirio Cyngor Caerdydd ar gael i ddatrys amrywiaeth o broblemau yn eich eiddo, gan gynnwys:
- Goleuadau a thrydan
- Dŵr, boeler a gwresogi
- Ffenestri a drysau
- Cloeon, ffenestri a ffitiadau
- Waliau, lloriau a nenfydau
Ewch i wefan Tai Cyngor Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth neu ffoniwch 029 2087 2087.
Deiliaid Contract Cymdeithas Dai
Bydd angen i chi siarad â’ch Cymdeithas Dai ynglŷn ag unrhyw atgyweiriadau sydd eu hangen ar eich eiddo.
Perchnogion Tai / Deiliaid Contract Preifat
Mae Care and Repair Cymru yn elusen yng Nghymru sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol trwy atgyweirio, addasu a chynnal a chadw cartrefi.
Mae’r gwasanaethau maent yn eu darparu yn cynnwys y canlynol:
- Gwiriadau Cartref Iach Am Ddim.
- Atgyweiriadau cartref, megis datrys problemau gyda lleithder, gollyngiadau dŵr, carpedi rhydd, ffenestri wedi torri a gwteri wedi cracio.
- Addasiadau i’ch cartref.
- Gwasanaeth tasgmon.
- Cymorth anabledd.
Cymhwysedd:
- Efallai y bydd isafswm cyfyngiadau oedran.
- Rhaid eich bod yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu’n breifat.
Cost:
- Mae ymweliadau cartref, gwiriadau cartref ac argymhellion gwaith i gyd yn rhad ac am ddim.
- Gellir talu am rywfaint o’r gwaith a argymhellir trwy grantiau sydd ar gael, ond bydd Care and Repair yn trafod hyn â chi.
I drefnu Gwiriad Cartref Iach a chael gwybod pa waith y gellir ei wneud i’ch cartref, cysylltwch â Care & Repair Cymru.





