ASDA
Mae plant dan 16 oed yn bwyta am £1 drwy’r dydd, bob dydd. Cwdyn bwyd babanod Ella’s am ddim ar gyfer plant dan 18 mis oed gydag unrhyw bryniant.
Beefeater
Dau frecwast i blant am ddim gydag un oedolyn sy’n talu, a chynnig ‘Plant yn Bwyta am Ddim’ yn ystod gwyliau ysgol pan fyddwch chi’n cofrestru ar-lein.
Bella Italia
Mae plant yn bwyta am ddim (3 chwrs a diod) o ddydd Sul i ddydd Iau pan fydd oedolyn yn archebu prif bryd.
Bills
Mae hyd at 2 blentyn 10 oed ac iau yn bwyta am ddim drwy’r dydd (ac eithrio penwythnosau), pan fydd un oedolyn yn archebu unrhyw brif gwrs.
Brewers Fayre
Brecwast am ddim i hyd at ddau blentyn dan 16 oed gyda phob brecwast i oedolion a brynir.
Farmhouse Inns
Mae hyd at 2 blentyn yn bwyta am ddim o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod gwyliau’r Pasg, gyda phob pryd oedolyn.
Frankie and Benny’s
Am bob prif bryd oedolyn a brynir, gall un plentyn 11 oed ac iau fwyta prif bryd am ddim.
Future Inns
Gall plant dan 5 oed fwyta am ddim pan brynir unrhyw bryd oedolyn.
IKEA
Mae prydau bwyd yn dechrau o 65c.
Las Iguanas
Mae plant dan 12 oed yn bwyta am ddim (prif bryd, 2 ochr a phwdin) pan fydd oedolyn yn archebu prif bryd drwy ap Las Iguanas.
Morrisons
Gall plant fwyta am ddim drwy’r dydd yng nghaffis Morrisons ledled y wlad, gyda phob pryd oedolyn dros £5.
Pausa
Pan fydd oedolyn yn gwario £4 yn y caffi, gall plant fwynhau un prif gwrs bach, dau fyrbryd a diod am ddim.
Premier Inn
Gall hyd at 2 blentyn dan 16 oed fwyta brecwast am ddim, pan fydd oedolyn yn archebu brecwast.
Sizzling Pub and Grill
O 12pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod gwyliau’r ysgol, gall plant fwyta am £1 pan mae oedolyn yn prynu prif bryd.
Yo! sushi
Mae plant 12 oed neu iau yn bwyta am ddim yn YO! Sushi yn ystod gwyliau’r ysgol, trwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener wrth fwyta gydag oedolyn sy’n talu (rhaid gwario o leiaf £10).
(Cywir ar 23/03/2026 – cadarnhewch y manylion cyn teithio)





