Os ydych chi’n cael trafferth talu eich treth gyngor, gall y Tîm Cyngor Ariannol helpu. Byddwn yn gwirio eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau ac arian y mae gennych hawl iddynt, yn paratoi cyllideb gyda chi ac yn gwneud awgrymiadau ar gyfer lleihau eich treuliau. Yna gallwn eich cefnogi i wneud cynnig ad-dalu ar gyfer adennill y Dreth Gyngor. Cysylltwch â ni ar unwaith os ydych yn derbyn bil treth gyngor na allwch ei dalu.
Ffoniwch 029 2087 1071 neu ewch i Cysylltu â ni – Gwasanaeth Cyngor Ariannol Caerdydd.





