Photo of a cooked dinner

ASDA

Mae plant dan 16 oed yn bwyta am £1 drwy’r dydd, bob dydd. Cwdyn bwyd babanod Ella am ddim ar gyfer plant o dan 18 mis oed gydag unrhyw bryniant.

Beefeater

Gall dau blentyn gael brecwast am ddim pan fydd un oedolyn yn talu am fwyd.

Bills

Mae hyd at 2 blentyn 10 oed ac iau yn bwyta’n rhad ac am ddim drwy’r dydd ar Ddydd San Steffan, pan fydd un oedolyn yn archebu unrhyw brif gwrs.

Brewers Fayre

Brecwast am ddim i hyd at ddau blentyn o dan 16 oed gyda phob brecwast i oedolion a brynir.

Future Inns

Gall plant dan 5 oed fwyta am ddim pan brynir unrhyw bryd oedolyn.

IKEA

Mae prydau plant yn dechrau o 95c.

Las Iguanas

Gall plant fwyta am ddim (prif gwrs, pwdin a diod) pan fydd oedolyn yn archebu prif gwrs.

Morrisons

Gall plant fwyta am ddim drwy’r dydd yng nghaffis Morrisons ledled y wlad, gyda phob pryd oedolyn dros £5.

Pausa

Pan fydd oedolyn yn gwario £4 yn y caffi, gall plant fwynhau un prif gwrs bach, dau fyrbryd a diod am ddim.

Premier Inn

Gall hyd at 2 blentyn dan 16 oed fwyta brecwast am ddim, pan fydd oedolyn yn archebu brecwast neu fargen bwyd.

Sizzling Pub & Grill

O 12pm yn ystod gwyliau’r ysgol (dydd Llun i ddydd Gwener), gall plant fwyta am £1 pan fydd oedolyn yn prynu prif gwrs.

Yo! Sushi

Gall plant fwyta am ddim yn YO! Sushi yn ystod gwyliau’r ysgol, trwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener pan fyddan nhw yn bwyta gydag oedolyn sy’n talu pris llawn (o leiaf £10 o wariant).

Bella Italia

Gall plant fwyta am ddim pan fydd oedolyn yn archebu prif gwrs.