
Bydd y signal sy’n rheoli mesuryddion trydan GTR yn cael ei ddiffodd ar 30 Mehefin 2025.
Mae hyn yn golygu os oes gennych fesurydd GTR, efallai y bydd eich gwres a’ch dŵr poeth yn stopio gweithio fel arfer.
BETH YW’R GWASANAETH TELESWITSIO RADIO (GTR)?
Mae’r GTR yn defnyddio signal radio i ddweud wrth rai mesuryddion trydan hŷn pryd i newid rhwng cyfraddau brig a chyfraddau arferol. Mae’n dod i ben oherwydd bod y gwasanaeth wedi cyrraedd diwedd ei oes weithredol. Os oes gennych fesurydd trydan GTR, bydd angen ei ddisodli.
SUT ALLA I DDWEUD A OES GEN I FESURYDD GTR?
Y ffordd orau yw cysylltu â’ch cyflenwr. Mae gan gyflenwyr fynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am y math o fesurydd sydd gennych. Rhai pethau y gallech edrych arnyn nhw a allai roi arwydd i chi bod gennych fesurydd GTR yw:
- Mae’r eiddo yn cael ei wresogi gan ddefnyddio gwresogyddion trydan neu storio.
- Rydych yn cael ynni rhatach ar adegau gwahanol o’r dydd (dros nos fel arfer). Gallai eich tariff fod yn un o’r canlynol: Economi 7, Economi 10 neu Total Heat Total Control.
- Nid oes unrhyw gyflenwad nwy i’r eiddo.
- Gallai fod blwch switsys ar wahân ger eich mesurydd gyda label Teleswitsio Radio (GTR) arno.
Os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych fesurydd GTR, dylech gysylltu â’ch cyflenwr trydan a byddan nhw’n trefnu i’w newid.
OS BYDD EICH CYFLENWR YNNI YN CYSYLLTU Â CHI, CYMERWCH GAMAU I DREFNU GWASANAETH GOSOD.
Os oes angen cymorth arnoch i gysylltu â’ch cyflenwr neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, ewch i’ch Hyb lleol a siaradwch â’r Tîm Cyngor Ariannol.
Rhif y Llinell Gyngor – 02920871071
Blwch Post yr Hyb Cynghori _ hybcynghori@caerdydd.gov.uk
Gallwch hefyd fynd i wefan Ofgem am fwy o wybodaeth.
www.ofgem.gov.uk/replacing-your-radio-teleswitch-electricity-meter