Help gyda rheoli eich arian a’ch dyledion

Gall delio â materion ariannol beri dryswch, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisi’n gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu’ch cael eich i ddyled.

Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, gallwn gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, cynyddu incwm a rheoli dyledion.

Dod â’r newyddion diweddaraf i chi

Ydych chi, neu ydych chi’n adnabod rhywun sydd rhwng 18 a 23 oed?

Cyflwynwyd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron i 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Oes angen help arnoch chi i lenwi ffurflen am fudd-dal anabledd?

Bydd y Tîm Cyngor Ariannol mewn Hybiau gwahanol dros y misoedd nesaf, yn cynnal sesiynau wedi eu neilltuo i helpu cwsmeriaid i gwblhau ffurflenni cais am fudd-dal anabledd.

Grant Hanfodion Ysgol 2025

Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Bydd y meini prawf cymhwysedd yn aros yr un fath. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7 ar gael.​​​​​​​​​​​​