Cynllun Costiau Byw

Help gyda Chostau Byw
Mae llawer o wahanol gynlluniau a allai eich helpu p’un a ydych yn derbyn budd-daliadau ai peidio.
Cynlluniau Llywodraeth Ganolog
Mae’r cynlluniau canlynol yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Ganolog yn San Steffan.
Byddwch yn cael eich talu yn yr un ffordd ag y byddwch ar hyn o bryd yn derbyn eich budd-daliadau, a byddwch yn cael eich talu’n awtomatig. Gweler www.gov.uk/guidance/cost-of-living-payment.cy ar gyfer cymhwysedd llawn a dyddiadau talu.
Cynllun Costau Byw i’r rhai sydd ar Fudd-daliadau Incwm Isel a Chredydau Treth
Os ydych yn gymwys, taliad o £900 wedi’i dalu mewn tri swm, Gwanwyn 2023, Hydref 2023 a Gwanwyn 2024 os ydych yn derbyn:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh)
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
Os ydych yn hawlio ar y cyd, mae’r taliad rhyngoch chi. Nid yw ar gael i’r rheiny ar Lwfans Ceisio Gwaith (Arddull Newydd) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Arddull Newydd) oni bai eich bod yn cael Credyd Cynhwysol hefyd.
Taliad Costau Byw Anabledd
Efallai y byddwch yn cael taliad o £150 ym mis 20/06/2023-04/07/2023 os ydych yn derbyn:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Taliadau Annibyniaeth Bersonol
- Taliadau Annibynnol y Lluoedd Arfog
- Tâl Atodol Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Lwfans Gweini Cyson
Taliad Costau Byw Pensiynwr
Os oes gennych hawl i Daliad Tanwydd y Gaeaf ar gyfer Gaeaf 2023-2024, cewch £150-£300 yn ychwanegol ar gyfer eich cartref a delir ym mis Tachwedd 2023.
Gweler y wefan www.gov.uk am fanylion llawn gan fod amrywiaeth o daliadau yn ddibynnol ar amgylchiadau.
Byddwch yn cael eich talu yn yr un ffordd ag y byddwch ar hyn o bryd yn derbyn eich budd-daliadau, a byddwch yn cael eich talu’n awtomatig. Gweler www.gov.uk/guidance/cost-of-living-payment.cy ar gyfer cymhwysedd llawn a dyddiadau talu.
Os oes angen help arnoch, neu fod eisiau gwybod mwy am y cynlluniau hyn neu’n cael trafferth fforddio eich biliau a chostau byw, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071, neu ewch i’ch Hwb lleol.