Mae Wythnos Siarad Arian yn rhedeg o 3 Tachwedd i 7 Tachwedd 2025 ac mae’n ymgyrch flynyddol sydd wedi’i chynllunio i annog pobl i gael sgyrsiau agored am arian.
Er bod y Tîm Cyngor Ariannol ar gael drwy gydol y flwyddyn i drafod materion ariannol, rydym yn awyddus iawn i’ch gweld chi yn ystod Wythnos Siarad Arian, yn un o’n lleoliadau ledled Caerdydd, i #DechrauSgwrs a #SiaradAmArian.
Os ydych chi eisiau gwybod a ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau, trafod ffyrdd o gynyddu eich incwm, dysgu sgiliau cyllidebu newydd, neu ddarganfod pa wasanaethau eraill y gall ein partneriaid eu cynnig i chi, dewch i ymweld â ni neu ffoniwch 029 2087 1071 i ddechrau’r sgwrs.
#DechrauSgwrs #SiaradAmArian





