
Os ydych chi’n derbyn Credydau Treth yn unig, heb fudd-daliadau eraill hefyd, cyn bo hir byddwch yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol i ddisodli’ch credydau treth. Gall ein timau eich cefnogi gyda’r newid hwn a bydd rhagor o fanylion yn cael eu hychwanegu at y wefan hon yn fuan.
Os ydych chi’n cael Credydau Treth yn ogystal â budd-daliadau fel Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ni fydd hyn yn effeithio arnoch.
Gall ein Tîm Cyngor Ariannol a’n Timau Cyswllt Lles helpu gydag unrhyw bryderon ynghylch arian a budd-daliadau. Ffoniwch ni ar y Llinell Gyngor, 029 2087 1071.